Tuesday 5 July 2011

Buenos Aires (ag adra!)

Hola!!  Dyma ni yn ol lle ddechreuon ni - Buenos Aires!!  Teimlad od oedd cyrraedd yn ol i'r maes awyr a ninnau'n gwybod yn iawn lle i ddal y bws i'r canol ayb ac yn meddwl am ba mor nerfus a chyffrous oeddan ni wrth gyrraedd tri mis yn ol.  Dim ond diwrnod oedd gennym ni yma ac felly mi wnaethon nigrwydro o amgylch y canol a mwynhau'r awyrgylch am y tro olaf.  Gyda'r nos penderfynu mynd draw i ardal Puerto Madero i gael swper.  Mae'r ardal hon yn y dociau wedi manteisio ar fuddsoddiannau mawr yn ddiweddar (yn debyg i ddociau Llundain) ac mae o rwan yn le braf i fynd am dro ac i fwynhau pryd o fwyd.


Fe gawson ni awgrym bod swper da ym mwyty Siga La Vaca a chawson ni ddim ein siomi.  Swper tenedor libre (all you can eat!) efo'r salad bar mwyaf anhygoel, y grill yn llawn cig o bob math, gwin am ddim a phwdin yn y pris!!  Hyn i gyd am lai na phymtheg punt!!  Mi oedden ni yn yein seithfed nef fel y medrwch chi ddychmygu!!  Noson wych i orffen y trip gyda boliau llawn yn barod am yr awyren fory!! 



Wel, dyma ni wedi pacio ac yn barod i gychwyn am y maes awyr.  Dan ni'n cyrraedd yn ol ym Manceinion amser cinio dydd Mercher (cofiwch ddod i nol ni Huwsiaid!!!)  Diolch i chi gyd am ddilyn y daith, gobeithio bod rhywfaint ohono fo wedi bod yn ddiddorol i chi, ac yn bwysicach na dim - edrych mlaen i weld pawb yn fuan iawn, iawn!!!  Adios amigos, hasta luego!!xxxxxxxx

Playa Pocitas

Dyma ni wedi cyrraedd y rhan 'gwylia' o'r trip!!  O yndi, mae'r tri mis wedi bod yn hollol anhygoel ond hefyd yn waith blinedig trefnu a teithio (rhwng yr holl fwynhau, wrth gwrs!)  Ond oeddan ni wedi penderfynu cyn cychwyn y bysa ni'n cael ryw bum diwrnod ar y diwedd i ymlacio'n llwyr.  A dwi'n meddwl ei bod hi'n beth braf i gael cyfle i anadlu a gwerthfawrogi'r holl brofiada gwych dan ni wedi'u cael. 

Yn sicr mi oedd Playa Pocitas ger tref Mancora yng ngogledd Peru yn ateb y briff!  Gwesty braf iawn reit ar y traeth, tywydd perffaith a'r bwyd mor mwyaf ffres a blasaus.  Heb os, mi wnaethon ni ymlacio'n llwyr a mwynhau bob eiliad!!  Ag mi oedd yna ambell 'ffrind' digon diniwed yn dod i ymweld efo ni wrth y pwll bob hyn a hyn i gael diod!!  Gan ein bod wedi diogi am bump diwrnod solet, does yna ddim llawer o storis, felly mi wnawn ni adael i'r lluniau siarad drostynt eu hunain. 









Un post arall o Buenos Aires ag wedyn mi fydda ni ar ein ffordd adra.  Hwyl!!xxxxx

Sunday 26 June 2011

Inti Raymi

Cyrraedd yn ol i Cusco ddiwrnod cyn y dathliad mawr a phenderfynu mynd i weld Qoricancha (Temple of the Sun), sef man cychwyn seremoni Inti Raymi fory.  Mae'r safle yn gartref i bedair teml fach o gyfnod yr Inciaid yn ogystal a mynachdy Ffransiscaidd, sef yr enwad a ddaeth gyda'r Sbaenwyr i orchfygu'r Inciaid a gafodd ei adeiladu'n ddiweddarach.  Er mae'n debyg iddyn nhw ddod drosodd dan yr argraff eu bod yn mynd i droi'r Inciaid yn Gatholigion ac nid er mwyn eu lladd a dwyn eu cyfoeth fel y digwyddodd go iawn.  O fewn muriau'r eglwys gwelsom enghreifftiau o celf oedd yn deillio o'r cyfnod yn ogystal a sawl darn o gelf modern hefyd. 


Fel y byddai rhywun yn disgwyl gyda ail wyl mwyaf De America, roedd y strydoedd yn orlawn ar fore'r 24ain ar gyfer Inti Raymi.  Dechreuodd y seremoni yng ngerddi Qoricancha cyn symud i'r Plaza de Armas. 
Yn y prynhawn roedd uchafbwynt y dathliadau yn adfeilion Sacsayhuaman uwchben Cusco.  Maent yn dathlu Inti Raymi fel dathliad blwyddyn newydd gan ddiolch i dduw yr haul, Inti, am y cnydau a ffrwythlondeb y tir.  Mae'n rhaid bod pobl Cusco i gyd wedi bod yn gweddio'n galed y llynedd gan ein bod wedi cael un o ddyddiau poethaf ein taith hyd yma!!! 
Roedd y prynhawn yn gyfres o ddefodau yn cael eu perfformio gan oddeutu 500 o bobl lleol.  Ymysg y rhai mwyaf difyr oed creu y tan, lladd y llama (ffug diolch byth!) ac yfed y chicha (diod meddwol o gorn).  Roedd y dyrfa i gyd yn disgwyl yn eiddgar am y Brenin a'r Frenhines a'r holl ddawnsio a chanu oedd yn arwain i fyny at hynny yn wych iawn.



Diwrnod arbennig arall ac roedd yn fraint cael profi'r dathliadau unigryw.  Teimlo ein bod yn haeddu 'gwyliau' bach ar ol yr holl ddathlu 'ma!!!  Dim ond wythnos fach ar ol rwan (swn crio!) felly dan ni'n symud i ogledd Peru i dorheulo ger Mancora.  Methu coelio bod y tri mis diwethaf wedi mynd mor gyflym ond dan ni'n edrych mlaen yn fawr i weld pawb.  Gobeithio gweld chydig o Wimbledon hefyd rhwng y torheulo!! 
Hwyl am tro!!xxxx  

Machu Picchu

Chawsom ni ddim ein siomi gan y daith ar y tren (oedd braidd yn ddrud i safonau Peru - dydi twristiaid ddim yn cael teithio ar y bws lleol i Machu Picchu).  Golygfeydd hollol anhygoel o'r mynyddoedd a'r trac yn dilyn yr afon Urubamba yr holl ffordd.


Codi am 5yb er mwyn cael diwrnod llawn yn yr adfeilion - un o saith rhyfeddod y byd - a chawsom ni ddim ein siomi.  Y ddwy ohonom a'r cegau ar agor led y pen wrth gael y cip cyntaf.  Nid yn unig maint yr adfeilion sy'n taro rhywun ond y lleoliad trawiadol yng nghesail y mynyddoedd.  Penderfynu cerdded i fyny at Intipunku (Adwy'r Haul), sef diwedd yr 'Inka Trail' a mwynhau'r olygfa oddi yno'n fawr iawn.

Wedyn, teimlo'n reit hyderus a phenderfynu mynd am dro fach sydyn i fyny Montaña Machu Picchu (oedden ni wedi rhagdybio'n hy fysa'n cymryd ryw hanner awr).  Wel, ar ol ryw awr a hanner o gerdded i fyny'r stepiau serth, sylweddoli mai'r mynydd y tu ol i'r un oedden ni wedi'i weld oedd Montaña Machu Pichhu - o diar!  Ond, wedi dod cyn belled, doedd 'na ddim troi'n ol.  Ac wedi cyrraedd y copa, roedden ni mor falch ein bod wedi dyfal barhau, ac yn teimlo fel dwy Hiram Bingham hapus - ni a'n bechdan gaws oedd mor sych a tasa fo wedi'i gadael hi yno gan mlynedd yn ol! 


O'r copa mi welson ni gysgod mawr du yn y coed, ac yn sydyn hedfanodd condor anferth allan o'r brigau gan godi'n uchel uwch ein pennau.  Poeni y byddai'n ffansio ein bechdan gaws, ond yn lwcus i ni roedd 'na rywbeth mwy blasus wedi mynd a'i fryd yn rhywle arall.  Ar gopa Montañna Machu Picchu roedd yna ffon fawr oedd, yn ol y chwedl, wedi'i gosod yno gan Manco Inka (Brenin Inca).  Teithiodd yr holl fordd o Lyn Titicaca a lle bynnag roedd o'n plannu'r ffon, byddai hynny'n dynodi ei fod yn dir da a ffrwythlon. 


Mae llawer o fythau yn bodoli ynghylch pwrpas gwreiddiol Machu Picchu ac mae'r dadlau yn parhau ymysg archeolegwyr a haneswyr hyd heddiw, gan mlynedd union wedi i Hiram Bingham ddarganfod y safle.  Credwyd bod y safle yn un o brif ganolfannau gweinyddol yr Inciaid am flynyddoedd neu'n gartref i 'virgins of the sun', ond erbyn hyn mae tystiolaeth wedi dod i law sy'n profi mai tai haf oedd yma, lle i'r Inciaid ymlacio pan fyddai'r tywydd yn ddrwg yn Cusco.  Roedd diflaniad sydyn yr Inciaid o Machu Picchu yn ddirgelwch mawr, ond fel gyda llawer o dai haf, roedd wedi mynd yn ormod o waith iddynt ei gadw, yn hytrach na'u bod wedi cael eu gorchfygu a'u gorfodi i ffoi.


Roedd y tywydd wedi bod yn gyfnewidiol drwy'r dydd - haul braf a glaw ysgfan am yn ail.  Ac i goroni'r diwrnod daeth enfys bach i wenu arnom.  Byddai rhai yn mynd mor bell a dweud ei fod yn symbolaidd iawn hefyd gan fod baner brodorol Peru yn lliwiau'r enfys.  Dan ni'n gweld yn glir pan fod hwn yn cael ei ystyried yn un o saith rhyfeddod y byd ac mor, mor falch ein bod wedi cael y cyfle i ddod yma i'w fwynhau.

Yn ol i Cusco ar gyfer dathliadau Inti Raymi - dwi'n meddwl y bydd y parti 'in full swing' erbyn i ni gyrraedd yn ol!!!

Ollytaytambo, Moray a Chinchero

Wedi dianc o dathliadau Cusco am chydig o ddyddiau a darganfod hafan braf ym mhentref Ollytaytambo sydd wedi ei adeiladu o fewn adfeilion Incaidd.  Aros mewn hostel a chyfarfod dynes glen o'r enw Katy a awgrymodd nifer o lefydd difyr i ni fynd i gerdded.  Wir wedi mwynhau cerdded yn y mynyddoedd uwch y pentref a'r golygfeydd anhygoel ar hyd y daith. 



Difyr hefyd oed gwrando ar Katy yn son am yr etholiadau diweddar sydd wedi bod yn Peru.  Fel arfer dywedodd mai gan bobl Lima oedd y bleidlais gryfaf, ond nid y tro hwn.  Ollanta ennillodd (ffefryn y tlodion, meddai hi) o drwch blewyn a Keiko yn ail.  Rydym wedi gweld llawer iawn o sloganau wedi'u paentio ar waliau yn genfogol i'r ddau ymgeisydd. 

Uchafbwynt ein cyfnod yn Ollytaytambo oedd ymweld a'r adfeilion.  Chafodd yr Inciaid ddim cyfle i orffen y safle hwn cyn i'r Sbaenwyr ymosod a dinistrio llawer o'r hyn oedd wedi ei gwblhau.  Caer oedd Ollytaytambo a gafodd ei hadeiladu yno gan bod modd gweld i fyny ac i lawr y dyffryn o'r safle pwerus hwn.


Penderfynu rhannu tacsi gyda dau arall oedd yn aros yn yr hostel i ymweld a'r chwarel halen, Moray a phentref Chincero.  Roedd y chwarel halen ger Maras yn ddifyr iawn ac yn dal i gynhyrchu halen gyda'r un technegau.  Gwelsom bobl yn casglu'r halen o'r pyllau enfawr ar hyd ochr y mynydd.


Roedd gweld Moray am y tro cyntaf yn brofiad wnaiff aros efo ni am byth - y cylchoedd naturiol yn y ddaear yn denu'r llygaid a'r uchder yn troi'r coesau yn chydig o jeli!  Yma, credir bod yr Inciaid yn tyfu cnydau ac yn arbofi gyda mathau gwahanol o datws a llysiau gan fod y lefelau gwahanol yn cynnig cyfle i weld y ffordd roed y cnydau yn ymayteb i dymhereddau amrywiol.  Tra roedden ni yna roedd yna ddau glown yn cynnal ryw seremoni ysbrydol efo CD, er mawr siom i Awen oedd yn grediniol ei bod yn clywed pobl frodorol yn canu islaw!
Gorffen y diwrnod efo ymweliad i Chinchero a'r Eglwys hardd yno.  Cael cyfle i gael cip sydyn o amgylch y farchnad.  Mae pobl Chinchero yn enowg yn yr ardal am wau tecstiliau hardd ac roedd llawer o fatiau a blancedi lliwgar ar werth yno.  Dyna ni'n meddwl bod antur y diwrnod ar ben, nes i ni drio dal bys lleol yn ol i Ollytaytambo.  Y colectivo yn cyrraedd a phawb yn rhuthro am y cyntaf i gael set.  Dyma ni fel twristiaid parchus yn gadael i'r bobl leol fynd gyntaf - pawb ond un ddynes fach gloff oedd yn stryffaglio i gael ei hun i fyny'r stepiau.  Ona na phoener, roedd Awen wrth law i'w chodi i fyny tra roedd rhywun ar y bws yn trio ei thynnu i mewn yr ochr arall -  golygfa a hanner faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael y camera'n handi!!

Trip ar y tren i Aguas Caliente nesaf - pentref Machu Picchu - methu disgwyl!

Thursday 23 June 2011

Cusco

Aeth y daith 10 awr yn gynt na'r disgwyl efo gem o Bingo yn gyfle i ni marfer ein rhifau!!  Glanio yn Cusco (neu Qosqo yn iaith Quechua) i ganol paratoadau dathliadau Gwyl Cusco fydd yn dod i uchafbwynt efo Inti Raymi ar y 24ain o Fehefin.  Y lle yn wledd o liwiau, dawnsio a mwynhau.  Awyrgylch braf iawn, er bod y bandiau pres yn rhai o'r gwaethaf dan ni rioed wedi'u clywed!!





Ar yr ail ddiwrnod, penderfynu mynd am dro i'r adfeilion Incaidd uwchben Cusco, Sacsayhuaman.  Lle difyr ofnadwy a chael tywysydd gwybodus iawn o'r enw Diana.  Doedd yr Inciaid ddim yn byw yn Sacsayhuaman gan mai teml i addoli oedd hi.  Dim ond uwchoffeiriaid oedd yn byw yno, er bod rhai o'r Quechuans yn gweithio yno ar y tir.  Adeiladwyd Sacsayhuaman uwchben Cusco a'r Plaza de Armas fel bod yr Incas a'r  bobl leol i gyd yn gallu'i weld er mwyn eu hatgoffa i addoli - yr haul, mellt a tharannau, dwr a pachamama (mam natur).  Diddorol oedd deall fod dinas Cusco ei hun wedi ei hadeiladu yn fwriadol ar siap piwma. Yn ol Diana, roedd lawer mwy o adfeilion o dan y ddaear ond roedd yr archeolegwyr yn amharod i fynd yn ddyfnach oherwydd bod y mwsog yn gwneud y cerrig yn rhy fregus i'w symud. 

Dechreuwyd adeiladu Sacsayhuaman gan yr Inca enwog Pachacuti ym 1450 a chymrodd dair cenhedlaeth iddo gael ei orffen.  Rheibiwyd y safle gan y Sbaenwyr yn ddiweddarach gan eu bod yn credu fod aur wedi ei guddio yno.  Yn yr adfeilion hyn y bydd uchafbwynt seremoni Inti Raymi - wedi prynu ein tocynnau yn barod - stori hir a lot o giwio mwen llefydd gwahanol - ond yn ddiogel yn ein dwylo o'r diwedd.      

Ar ol mynd o amgylch yr adfeilion penerfynu mynd ar daith ar gefn ceffyl i weld rhai adfeilion eraill oedd chydig ymhellach o'r ddinas - Tambo Machay, Puka Pukara a Qenko.  Roedd y rhain yn wahanol iawn i Sacsayhuaman gan fod un yn gartref haf a'r llall yn safle milwrol.  Roedd y daith ar y ceffylau yn fwy o antur nag oedden ni wedi'r ddychmygu ac yn mynd i fyny'n uchel i'r mynyddoedd.  Ond golygai hyn fod y golygfeydd yn werth chweil!   


Ar y ffordd yn ol gweld criw o bentrefwyr yn sychu tatws ar ochr y ffordd.  Mae'n debyg fod y dechneg hon yn deillio o gyfnod ymhell cyn yr Inciaid a bod modd eu cadw yn y ffurf yma i fyny at 10 mlynedd - iym!!!


Cyn diweddu'r diwrnod, cerdded ryw hanner awr i weld cerflun y Christo Blanco oedd yn edrych i lawr ar Cusco.  Roedd yn hynod drawiadol wedi'i oleuo ac yn ddiwedd gwych i ddiwrnod difyr.

Y ddwy ohonom wir yn edrych mlaen i'r cam nesaf sef mynd i'r Dyffryn Sanctaidd ac ymweld a phentref bach Ollytaytambo ac yn arbennig un o 7 rhyfeddod y byd - Machu Picchu.  gobeithio bod popeth yn iawn efo pawb adref.  Methu credu pa mor gyflym mae'r amser yn mynd.  Newyddion da arall ydi fod awyrennau i gyd bellach yn hedfan yn Ne America ar ol y llosgfynydd yn Chile.  Er, ella fysa ni ddim wedi cywno cael cwpl o wythnoasu ychwanegol yma chwaith!!  Hwyl am y tro!! 

Arica a Tacna

Hola amigas!  Yn gyntaf, ymddiheuriadau bod y llunia braidd yn gam - dyna sy'n digwydd i betha yn hemisffer y De!!  Hynny ynghyd a chyfrifiaduron araf, styfnig a henffasiwn!!  Dyma ni yn ol yn Chile.  Nid dyma oedd y bwriad ond oherwydd y problemau yn Puno (Llyn Titicaca) dyma oedd y ffordd orau i gyrraedd Peru yn ddiogel.  Ond falch ein bod wedi cael y cyfle i weld chydig mwy o Chile (a stamp arall yn y passport!)  

Mae Arica yn ddinas fawr yng ngogledd Chile, reit ger glan y mor.  Dros y blynyddoedd bu llawer o frwydro dros berchnogaeth Arica rhwng Chile a Peru.  Roedd yn amlwg eu bod yn falch iawn o'u gwreiddiau yn Chile oherwydd bod fflagiau ym mhobman a hefyd cofgolofnau yn datgan eu balchder cenedlaethol.  Fe wnaethon ni gyrraedd Arica ddiwrnod cyn Diwrnod Anibynniaeth y ddinas - lot o ganonau am 6 y bore - ynghyd a than gwyllt trwy'r dydd!!

Roedd yn braf cael arogli aer y mor - newid braf o arogl ceir a llygredd La Paz.  Wedi mynd am dro un pnawn i'r Morro, sef y mynydd/bryn yn Arica.  Golygfeydd braf allan dros yr harbwr, ac wedi aros yno tan y machlud, fel y gwelwch chi.

Aros mewn hostyel eithaf doniol - boi oedd yn rhedeg y lle yn llawn hwyl.  Heb anghofio eu bod hefyd yn berchen ar gath y diafol oedd yn mynnu ymosod ar Awen bob cyfle!!!  Roeddwn i'n ddigon lwcus i gael hafan ddiogel (ar y 3ydd bync!!)  Awen ddim cweit mor lwcus . . . ac yn gripiadau i gyd!!!

Rhag ofn i chi boeni ein bod ni wedi gostwng ein safonau ers cyfnod Patagonia, dani ni dal yn mynd i'r capel bob hyn a hyn (cyd-ddigwyddiad bod potel Pisco hefyd o'r un enw!!)


Un o nosweithiau hwyliog yn yr hostel - BBQ hyfryd a Roberto'r perchennog yn mynnu bod pawb yn cael wig yr un!!  Noson dda a chriw da yn yr hostel hefyd.

Er ein bod wedi mwynhau Arica, rhaid oedd dal ymlaen efo'r daith ac i fyny i Tacna, Peru.  Croesi'r bordor yn eithaf didrafferth efo dwy hogan o'r Almaen a dyn o Dde Affrica oedd wedi bod yn cerdded sawl gwaith yn Eryri.  Siwrnae o ryw awr a hanner mewn colectivo a'r gyrrwr yn sortio bob dim i ni ar y bordor oedd yn handi iawn.  Doedden ni ddim wedi bwriadu aros yn Tacna ond gan nad oedd bws yn mynd yn syth i Cusco'r diwrnod hwnnw, penderfynu cymryd y cyfle i edrych o gwmpas.


Yn ddiddorol iawn, roedd Tacna yn debyg iawn i Arica wedi bod yn rhan o Chile unwaith ond bellach yn falch iawn o'i statws fel tref gyntaf ar fordor Peru.  Mynd am dro i'r Eglwys ac eistedd yn gwylio'r byd yn mynd heibio ar y sgwar.  

Y daith nesaf i Cusco a pharatoi ar gyfer Machu Picchu a dathiadau Inti Raymi - edrych mlaen!!