Thursday 31 March 2011

Deuparth taith . . .

Wel, dyma ni, cwpl o ddyddiau cyn gadael ac wedi penderfynu trio creu blog bach cyn mynd er mwyn gweld os fedar dwy ddi-blog-brofiad fel ni neud un!  Mae'r blog yma wedi'i greu yn bennaf er mwyn i deulu a ffrindiau gael busnesa ar ein hanes - fydd o ddim yn cynnwys unrhyw sylwadau chwyldroadol am fywyd na llawer o ffeithiau dibynnadwy.  Mae o hefyd yn gyfle i ni dderbyn chydig o hanesion o adra fel bo ni ddim yn methu allan ar unrhyw glecs pwysig!

Mae gennym ni gynllun bras ar gyfer y daith ac felly wedi atodi'r map - ni ydi'r linell biws!!



Hoffem gymryd y cyfle hefyd i ddiolch i bawb am eu cyfraniadau hael tuag at gartef plant Mi Casita y byddwn yn ymweld a hi tra'n Esquel, Patagonia.  Rydym wedi llwyddo i gasglu £400 gyda diolch arbennig i Gweithredu Dros Blant sy'n bwriadu gallu cyfeillio gyda Mi Casita yn y dyfodol.   Er mwyn i chi deimlo eich bod wedi cael gwerth eich pres hefyd, mi fedran ni gadarnhau ein bod wedi cyflawni'r daith i Moel Famau (ag Awen a'i stretched medial ligament wedi cyrraedd hanner ffordd canmoladwy!)  Mi fydd na fwy o hanes Mi Casita mewn rhyw fis.

Adios mawr i bawb am y tro.  Gobeithio gewch chi lot o law tra dani ffwrdd!