Monday 25 April 2011

Pasg Hapus o El Calafate

Pasg hapus i chi gyd!!  Clywed bo chi wedi bod yn mwynhau cyfnod o dywydd braf - neis iawn!!  Wedi dod lawr i´r pwynt pellaf i´r de y byddwn yn mynd yn ystod y daith - El Calafate.  Mae hi´n ardal hynod o braf a thlws a dan ni´n mwynhau yn fawr iawn (er ei bod hi chydig yn oer i gymharu efo´r tywydd braf dan ni wedií gael yn Buenos Aires a Puerto Madryn).  

Aethom i Lagua Nimez ar y diwrnod cyntaf i weld y bywyd gwyllt gan gynnwys fflamingos a llwyth o adar amrywiol.  Golygfeydd bendigedig o´r mynyddoedd ar lanau Lago Argentino.  Dyma chydig o luniau o´r daith honno.





Y diwrnod canynol aethom i weld galcier Perito Moreno sydd ryw awr o El Calafate.  Dyma´r  unig glacier yn y byd sydd yn symud ac yn cadw´í faint.  I roi rhai o´r lluniau mewn perspectif mae ei flaen yn 5km a´í daldra yn tua 60m ond yn tybio ei fod tua teirgwaith hynny o dan y dwr. 

Penderfynu dal cwch aeth a ni at ymylon y galcier - siwrnae hynod wyntog ond yr olygfa gyntaf ohono yn cymryd ein gwynt.  Roedd yn llawer mwy nag oedd y lluniau oeddem wedi´í gweld yn gyfleu ac yn edrych reit od ynghanol y mynyddoedd.  Tirwedd digon tebyg i adra ond yn ddim syndod o gofio mai rhewlif tebyg a greodd Dyffryn Ogwen hefyd.  Welson ni mo hanner y galcier o´r gwch ac o fod mymryn uwch ei ben roeddem yn gweld pa mor bell roedd o´n ymestyn heb son am ddychymgu pa mor ddyfn oedd o dan y dwr hefyd - waw!  Roedd rhannau ohono yn las, las ac yn edrych yn anhygoel yn erbyn lliwiau dail yr hydref.  Wedi gweld rhannau mawr (ish!) o´r glacier yn disgyn i´r dwr ac yn gwneud anferth o glec.  Gnweud i rywun feddwl pa mor gyflym mae rhai o glaciers yr Antartica yn diflannu a ddim yn tyfu yn ol fel Perito Moreno.
  
Pwynt pwysig arall ydi fod caffi´r glacier yn gwneud un o´r siocledi poeth gora yn y byd - Y Calafate!  Meddwl ein bod wedi ei haeddu fo ar ol cerdded yn yr oerfel trwy´r pnawn!  






Wedi cael hostel braf iawn yn Calafate efo golygfeydd gwych dros Laguno Nimez a Lago Argentino.  Lle braf i ymlacio.  El Calafate ei hun yn le od - y lle rywle rhwng pentref yn y Swistir a Betws y Coed ac yn amlwg wedi´í greu ar gyfer twristiaid sydd eisiau ymweld a´r glaciers ond yn le dymunol er hynny. 

Wedi mynd am ddiwrnod i El Chalten i gerdded ac i gael cipolwg ar fynydd Fitz Roy.  Ond yn anffodus oedd Fitz Roy wedi penderfynu cuddio oddi wrthym tu ol i gymylau duon!  Wedi cerdded rhyw fymryn a gwylio triathlon lleol efo pobl yn lyb socian bechod.  Lle braf dwi´n siwr (yn yr haf!)  Yn amlwg roedd y tymor twristaidd yn dirwyn i ben ond fel ddudodd y warden yn y Par Cenedlaethol - os fysa hi´n braf yno o hyd fysa na ddim gymaint o glaciers!  Ar y ffordd adra, llwyddo i gael cip sydyn ar yr hen Fitz Roy a hefyd glacier Viedma sydd yn dipyn mwy o faint na Perito Moreno - tua 4 gwaith yn fwy.

Dal bws pawn ma i Rio Gallegos ac yna i Trevelin erbyn y penwythnos ar gyfer yr Eisteddfod.  Edrych ymlaen i ddal i fyny efo ffrindiau wnaethon ni yn y Gaiman.  Clywed bod trip o Gymru wedi gadael am Batagonia felly ella y bydd ein llwybrau´n croesi rhyw ben - gawn ni weld!  

Wednesday 20 April 2011

Trelew a´r Gaiman

Hola amigos!!  Mai wedi bod yn dipyn ers i ni ddiweddaru´r blog - prawf ein bod wedi bod yn joio gormod!!  Rhaid dweud ein bod wedi cael croeso anhygoel gan bobl y Wladfa ac mae´r holl son am ba mor gyfeillgar ydyn nhw yn berffaith wir.

Mae Trelew yn dref eithaf prysur ac mae olion y Cymry yn llawer llai gweladwy nag yn Puerto Madryn a´r Gaiman.  Er hynny, mae Capilla Tabernacl a Neuadd Dewi Sant ynghanol y dref, heb anghofio am holl enwau´r strydoedd, megis Lewis Jones, Avenida Gales . . . Yn Capel Moriah yn Trelew cawsom sgwrs ddifyr iawn efo Cristina oedd yn gofalu am y capel (ac roedd Edwin Cynrig aeth yn sownd yn y ffynnon yn hen daid iddi!!)  Mae hi´n tybio mai yn Eglwys St Anne´s ym Methesda y claddwyd Edwin felly dan ni wedi addo mynd yno i chwilio pan awn ni adra.  Dydi´r capel hwnnw ddim yn cael ei ddefnyddio´n rheolaidd bellach dim ond ar gyfer priodasau neu achlysuron arbennig. Tywysodd Cristina ni o amgylch y fynwent lle roedd llawer o´r Cymry ddaeth draw ar y Mimosa wedi´í gladdu gan gynnwys Lewis Jones.




Cael lle braf iawn i aros yn y Gaiman - Plas y Coed efo Ana Rees - sef y Ty Te Cymraeg cyntaf yn y Gaiman.  Adeilad prydferth iawn a ddim yn anhebyg i adeiladau yng Nghymru o´r un cyfnod. 



Buom yn lwcus iawn i fod yno ar gyfer nos Sadwrn pan oedd Lois Dafydd o Menter Patagonia wedi trefnu noson gyri.  Roedd yn gyfle da i´r bobl leol gyfarfod a siarad Cymraeg ac i ni gael cymdeithasu hefyd.  Difyr nad oeddynt wedi profi cyri o´r blaen (mi aeth o i lawr yn dda iawn!) a dydyn nhw ddim yn bwyta tatws pob chwaith!  Dywedodd Ana ei bod wedi synnu bod cynifer wedi dangos diddordeb gan mai dim ond ryw 35 oedd yn arfer dod i´r math yma o ddigwyddiad a bod 50 wedi rhoi eu henwau i lawr tro ma (wedi clywed ein bod ni yno mae´n rhaid!!)  Braf os nad mymryn yn swreal oedd canu ´Bys Meri Ann´ ddiwedd y noson i gyfeiliant hyfryd gitar Billy Hughes. 

Nos Sul aethon ni i Oedfa´r Pasg yng Nghapel Bethel.  Unwaith eto, roedd y croeso yn gynnes iawn a llawer o´r aelodau yn awyddus i rannu eu cysylltiadau a Chymru efo ni.  Gwasanaeth undebol Cymraeg oedd o a phobl wedi dod o gapeli´r ardal ar gyfer y gwasanaeth.  Yr un stori ag adra bod rhifau sy´n mynychu´r capeli yn lleihau ond yr enwadau yn gyndyn i ymuno.  Un peth braf oedd eu bod yn cyfarfod awr cyn y gwasanaeth am de a chacennau sy´n dod ag elfen gymdeithasol i´r peth.  Roedd y canu yn wych a´r emyn olaf "Arglwydd Dyma Fi" yn dod a mymryn o hiraeth dros y ddwy ohonom (mewn ffordd dda).  Yn sicr yn brofiad bythgofiadwy.



Gyda´r nos cawsom wahoddiad i Gornel Wini gyda Luned Gonzalez a Tegai Roberts, dwy sydd wedi gweithio´n galed i gadw´r bywyd Cymreig yn fyw, Lois Dafydd a Clare Whitehouse sy´n byw yn Nhrevelin ond yn wreiddiol o ardal Wrecsam (meddwl ei bod yn adnabod Mam o gwrs yn Coleg Llysfasi!)  Noson arall wych - roedd Tim Baker i fod i ymuno efo ni ond roedd o wedi cael pwl o ´jet lag´!  Diweddu´r noson efo hufen ia dulce de leche (mewn siop o´r enw Gwahanol!) am 11 yn y nos!!  Dan ni dal i arfer efo pa mor hwyr mae´r bywyd yn dechra yma.





Wir wedi mwynhau´r amgueddfa yn y Gaiman a chael hanesion difyr gan Fabio mab Luned sydd mor wybodus a chyfeillgar.  Roedd sawl eitem oedd wedi dod drosodd ar y Mimosa gan gynnwys sgarff gwraig Lewis Jones.  Roedd piano Lewis Jones yno hefyd er eu bod yn tybio ei fod wedi´í phrynu yn Buenos Aires ac yn anffodus fe gafodd ei difetha mewn llifogydd.  Diddorol oedd gweld bod rhai o´r mapiau cynharaf o ardal Chubut yn y Gymraeg gan Llwyd ap Iwan.  Hefyd roedd rhai enwau ´Cymraeg´ wedi aros megis Pant Ffwdan a Rocky Trip ac enw un mynydd yn yr Andes - Cerro Cwtche - wedi dod o´r gair ´cwtch´. 

Dydd Llun cawsom ddiwrnod braf yn Punta Tombo yn ymweld efo´r pengwins!  Y ddynes oedd yn rhedeg y daith (Clara) yn briod a Chymro ac yn bendant mai Libanus Jones wnaeth enwi´r creaduriaid yn bengwins am fod ganddynt ben gwyn.  Doniol mai´r enw blaenorol arnynt oedd ´strange geese´ am eu bod yn swnio fel gwyddau ond nad oeddynt yn gallu hedfan.  Er ei bod yn nesau at ddiwedd y tymor a bod y pengwins yn gadael am Brasil (tua 20% o´r nifer arferol oedd ar ol - 200,000) roedd y lle´n dal yn orlawn ac mi oedden nhw mor, mor ddel ac o fewn pellter cyffwrdd (moooor tempting!!  Wedi gorfod clymu dwylo Non nes dychwelyd i´r bws mini!)  Y rhai oeddan ni wedi gwirioni fwyaf efo nhw oedd y rhai yn eu harddegau oedd yn y broses o golli ei plu babi.  Wel am olwg bler ar rai ohonynt!!  Ond yn eu gwneud gymaint yn fwy ciwt er bod rhai yn edrych yn fed-up ac isho bod yn barod i fynd i´r mor efo´r oedolion.  Clara yn dweud ei bod wedi bod yn rhan o´r brotest yn 1982 pan wisgodd degau o drigolion Trelew a´r ardal fel pengwniaid er mwyn protestio yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i ganiatau gwerthu miloedd o´r anifeiliad i´r Siapaneaid i´w defnyddio ar gyfer bagiau a menyg gan fod eu croen yn ledr gwydn.  Y fuddugoliaeth ecolegol gyntaf yn yr Ariannin ac mae´r ardal wedi´í gwarchod erbyn hyn.





Bellach dan ni yn El Calafate yn Ne´r Ariannin - ardal dlws ofnadwy a´r llynnoedd a´r mynyddoedd yn debyg iawn i ardal Ogwen.  Edrcyh mlaen i weld y glaciers anferth (Perito Moreno) a cherdded ger Lago Argentina.  Gobeithio bod pawb yn iawn - clywed eich bod yn mwynhau sbel braf - meddyliwch amdanom yma yng nghanol y rhew!!
 

Thursday 14 April 2011

Puerto Madryn

 Hola o Borth Madryn!  Wedi cael cwpl o ddyddia braf iawn yma er mae´r Hydref ar ei ffordd dan ni´n ama!  Wedi dod ar draws cofeb i ferched y Wladfa a plac gan blant Ysgol Madryn i ddathlu canmlwyddiant y Glaniad.  Aethom i´r Museo del Desembargo yn y pnawn a chyfarfod ein Cymraes gyntaf - Delia Evans oedd yn wreiddiol o Dolavon. 
 Roedd yr amgueddfa´n ddiddorol iawn ac yn adrodd yr hanes gyda darnau o ddyddiaduron rhai o´r Cymry cyntaf.  Hanes difyr hefyd am sut oedd yr Indiaid wedi helpu´r Cymry´n fawr (er fod un stori am Gymro o´r enw Edwin Cynrig Willimas wedi cael ei adael yng ngwaelod ffynnon gan ei weision!)
 Islaw i´r amgueddfa roedd Punto Cuevas sef yr ogofau oedd y Cymry wedi eu creu ar gyfer byw ynddynt am yr wythnosau cyntaf.  Diddorol nad oedd rhai o´r Archentwyr lleol yn dal ddim yn credu mai´r Cymry oedd wedi eu creu ond eu bod yn hytrach wedi eu ffurfio´n naturiol gan y mor.  Dangos amodau mor galed oedd yma ar y dechrau.
 Pnawn ddoe wedi cerdded i Playa Parana ar hyd lon lychlyd ond y daith yn bendant werth yr ymdrech.  Golygfeydd anhygoel yn ol tua´r dref.

Gadael pnawn ma i Drelew ac yn edrych ymlaen at ran nesa´r daith (a phanad a sgonsan!)  Gobeithio bod pawb yn iawn.  Cofion i chi gyd xxxx

Sunday 10 April 2011

Parilla a Tango

Da ni ar fin gadael Buenos Aires felly dyma chydig o hanes y pedwar diwrnod anhygoel diwethaf.

Cawsom ddechrau emosiynol iawn yn y Plaza de Mayo yn gwylio sefydliad merched y Plaza de Mayo yn gorymdeithio y tu allan i´r Casa Rosada er cof am eu plant a gafodd eu cipio aú lladd yn ystod y rhyfel cartref. Profiad trist ond yn atgoffa rhywun o´r hanes a bortreadwyd yn y ffilm Imagining Argentina.


Rhag ofn bo hynny ddim digon trist penderfynnu mynd i fynwent Recoletta i weld bedd Evita. Wel !! Y lle mwyaf od i ni´n dwy fod erioed gyda´r eirch i gyd ar sioe mewn "shediau" marmor a miloedd o gathod gwyllt yn patrolio´r lle!!!!. Bedd Eva Peron, eitha trist o weld ymateb pobl lleol sydd yn amlwg gyda meddwl mawr ohoni o hyd. Rhag ofn fod gan rhywun ddiddordeb mae´r shed drws nesa iddi ar werth!!!



Wedi cael diwrnod braf iawn yn crwydro´r parciau yn Palermo ddoe.  You can take the girl out of the country . . . Wedi gweld y rhai sy´n cerdded cwn gyda tua 12 o gwn yr un - pwy oedd yn arwain pwy dan ni ddim yn siwr!!  Yn y parc roedd ´na ardd rosod hyfryd efo parotiaid gwyrdd hardd yn y coed.  Hefyd wedi mwynhau gweld fersiwn yr Ariannin o aerobics - ryw fath o salsa awyr agored a cerddoriaeth yn blastio dros y lle - gawson ni wigl bach mae´n rhaid cyfaddef!!  Ger Palermo roedd ´na ddarn anferth o gelf - Floralis Generica - roedd o´n cau pan oedd hi´n dywyll ac yn agor wrth i´r dydd fynd rhagddo ac yn cau eto gyda´r nos.  Mi oedd o´n dipyn o olygfa.



Heddiw, aethon ni i´r farchnad yn San Telmo ar y Paza Dorrego - dwi´n meddwl ei fod o´r un maint a Rhuthun!!  Cael cinio bendigedig mewn bwyty bychan gyda cwpl yn dawnsio tango (mor agos bron i´r gwydryn vino gael cnoc!)  Pnawn braf iawn yn crwydro o amgylch y lle a mwynhau´r awyrgylch a´r gerddoriaeth fyw.



O ran bwyd, aetho ni i parilla neithiwr a mwynhau´r stecen ora rioed!!  Wnaiff geiriau ddim gwneud cyfiawnder efo hi felly jesd coeliwch ni bod o´n LYFLI!!  Hefyd wedi trio empanada (cornish pasty yr Ariannin) oedd yn ddigon blasus ond wel ni beidio eu mwynhau nhw gormod!  Tywydd dal yn lyfli (tua 25 gradd heddiw) ond mi wnaiff hi oeri rwan ein bod yn teithio tua´r De.





Gadael ar y bws heno i Puerto Madryn - 18awr ond wedi cael coche cama lle mae´r seti´n mynd yn ol fel gwely ac maen nhw´n gweini bwyd arno fo hefyd - awyren daear!!  Rwan dan ni´n dechra cam nesa´r daith.  Daw´r post nesa o´r Wladfa . . .

Wednesday 6 April 2011

Buenos Aires

Dyma neges sydyn i ddweud ein bod wedi cyrraedd yn saff. Buenos Aires yn brysur iawn ac am ryw reswm yn arogli fel vanilla!!!!. Mai´n boethach o lawar na oeddem ni´n feddwl dani´n tybio ei bod hi´n tua 23 digon derbynniol am "Hydref"!!Wedi cael boccadillo queso yn barod,edrach mlaen am stecan a iw cerveza neu ddau nes mlaen.!!! Mwy yn fuan.Cofion i bawb.xx