Tuesday 31 May 2011

Santiago a Valapraiso

Wel dyma gyfnod newydd mewn gwlad newydd - hola Chile!!! 

Ar ol siwrnae 6 awr a 26 o droadau hairpin i lawr yr Andes dyna ni'n cyrraedd Chile.  Lliwiau anhygoel a'r tirwedd yn newid ei liw unwaith eto yn greigiau coch eu lliw.  Er clywed llawer am bobl yn aros oriau yn y checkpoint, cawsom fynd drwodd mewn ryw awr.  Mae'n rhaid fod bag Non yn drewi gan i'r ci cyffuriau wrthod ei arogli! 



Er i Santiago ddioddef sawl daeargryn, mae wedi llwyddo i gadw ei chymeriad gyda nifer fawr o adeiladau hardd.  Fel byddai rhywun yn ddisgwyl gyda phrifddinas roedd y ddinas yn llawer prysurach ac yn llawn traffig.  Ond wedi llwyddo i ffindio lle bach braf yn y Mercado Central - adeilad hanesyddol a adeiladwyd ym Mhrydain a'r drosglwyddo i Santiago ar gwch.  Yr adeilad yn atgoffa rhywun o orsaf tren yn Llundain.  Mwynhau cinio pysgod yno. 



Treulio diwrnod yn cerdded yn Cerro San Cristobal - mynydd yng nghanol Santiago.  Wrth gerdded i fyny sylweddolom pa mor ddifrifol ydi'r broblem llygredd wrth edrych i lawr dros y ddinas.  Roedd yn daith ryw 5km i gopa'r mynydd, ond werth bob cam wrth i'r ddwy ohonom ddychryn ar faint cerflun o'r forwyn fair, a pha mor dlws oedd o.  Roedd yr ardal o amgylch yn le tawel iawn gyda gerddi a dwy eglwys gyda theimlad sanctaidd iawn yna.

Penderfynu mynd am dro i dref Valparaiso sydd wedi'i hadeiladu ar gyfres o fryniau.  Roeddem wedi clywed llawer o ganmol i'r lle ond cawsom sioc ar ol cyrraedd a gweld lle mor llwm a thlawd.  Aethom ar fys i fyny Cerro Florida i weld cartref bardd enwog o Chile, Pablo Neruda.  Ty 5 llawr anhygoel yr olwg wedi'i gynllunio gan y bardd ei hun.  Teimlad o bresenoldeb y bardd ei hun wrth inni ddilyn hanes ei fywyd a'r addurniadau bohemaidd oedd yn ddiddorol iawn. 




Wedyn mynd i fyny Cerro Concepcion ar funicular (tren bach) sydd, medda nhw, yn cynnig yr olygfa orau o Valparaiso.  Doedden ni ddim mor siwr!  Achubwyd y diwrnod gan gwrw bach i Non a bicardi i Awen - sioc pan lenwodd y gwydr i 3/4 llawn - taith yn ol i lawr yn fwy difyr a dweud y lleiaf a Valparaiso yn edrych fymryn yn fwy prydferth!!

Mendoza

Mendoza yn ddinas llai o lawer na'r disgwyl gyda avenidas tlws gyda choed bob ochr iddynt.  Nid oes llawer o adeiladau gwreiddiol ar ol o ganlyniad i ddaeargryn a chwalodd y ddinas gyfan yn 1861.  Lle hamddenol iawn gyda nifer o plazas i ymlacio yn yr haul - mae'r busnes trafeilio ma'n waith caled!!!!



Cael cyfle i fynd i'r parc San Martin sydd hanner maint y ddinas.  Lle braf iawn i gael picnics, rhwyfo a gwelsom un dyn bach yn mynd a hwyaden ar flaen ei feic - cymeriadau go iawn i'w gweld ar y daith 'ma!!



Treulio noson yn mynd o amgylch y farchnad ar Plaza Indepedencia oedd mor lliwgar.  Ac yna, cyrhaeddodd y diwrnod mawr, sef y daith Bikes and Wines!  Wedi rhentu beics yn Maipu, ryw hanner awr tu allan i Mendoza a chael map yn amlinellu'r bodegas.  Yna cael ein gadael yn rhydd!!  Penderfynu gwrthod y gwydriad gwin cyn dechrau i ni gael ffindio ein traed (neu'r pedals!!) 

Y stop cyntaf oedd mewn man oedd yn gwneud olive oil, absynth, liquirs a siocled (cyfuniad peryg!)  Diddorol oedd clywed sut oeddynt yn gwneud yr olew - cymryd 15kg o olives i wneud 1 litr o olew olewydd.  Hefyd wedi 'gorfod' trio holl gynyrch y bodega gan ddechrau efo'r olew yna ymlaen at jam o bob math.  Awen yn trio'r absynth gyda dwy ferch o Awstralia - anodd dweud wyneb pwy oedd y cochaf!!!!  Non yn penderfynu cael 'ladies drink' - fodca a phinafal, cyn gorffen gyda mymryn o siocled.




Nol ar ein beics ac i fodega Tomasso lle cawsom y cyfle i flasu 4 mat gwahanol o win a gweld sut oedynt yn storio'r gwin.  Taith hamddenol yn ol i'r swyddfa a mwynhau gwydriad o win gyda'r criw oedd ar y trip.

Bariloche

Helo ers amser maith!!  Mae diffyg cyfrifiadur gyda chryfder i lawrlwytho lluniau a'r ffaith ein bod yn mwynhau ein hunain gymaint wedi ein rhwystro rhag dal i fyny efo'r newyddion - felly dyma ymdrech i ddiweddaru'r stori hyd yma . . .

Mae Bariloche yn le hynod o ddel gafodd ei sefydlu gan fewnfudwyr o'r Swistir, sy'n egluro pensaerniaeth yr ardal - mae'n llawn cabanau a thai bach wedi'u hadeiladu o bren.  Roedd gweld hyn gyda mynyddoedd a chopaon eira yn ein hatgoffa o'r Swistir.  Wrth gwrs, mae Bariloche hefyd yn enwog iawn am ei siocled, ond mwy am hynny yn y munud!
Treulio amser yn cerdded o amgylch coedwigoedd a llynnoedd trawiadol o dlws - ardal Llao Llao - gyda lliwiau'r Hydref yn adlewyrchu ar ddwr llonnydd.  Cawsom gyfle i hwylio ar gwch i Ynys o'r enw Puerto Blest - ynyd hollol anghysbell gyda dim ond un person yn byw arni, sef y warden.  Aethom o amgylch y goediwg yno lle roedd coed hyd at 1500 oed.  Cerdded wedyn yn ol hyd lannau'r llyn gan edrych ar ogofau byach ble roedd dyfrgwn yn byw.  Taith faith wedyn i fyny 650 o stepiau i ben rhaeadr anferth.

Un o'r profiadau brafiaf yn Bariloche oedd mynd i ben Cerro Campanario - WAW!!!   Wedi mynd i fyny ar y ski lifft oedd yn brofiad yn ei hun!!  Y ddwy ohonom methu coelio pa mor dlws oedd yr olygfa - gweld mor bell i bob cyfeiriad, ac wrth gwrs, tynnu cant a mil o luniau!!  Cawsom apple strudel a quillmers (cwrw lleol) ar y copa - nefoedd!!

Ar ein diwrnod olaf doedd ond un peth i'w wneud - crwydro o gwmpas y siopoau siocled gan geisio penderfyu pa rai i'w samplo!!  Dewis siop yn y diwedd - llygaid Non ymhob man yn methu canolbwyntio oherwydd yr holl ddewis.  Llwyddo i brynu ryw 6 darn yn y diwedd a hithau'n amddiffyn y bag am weddill y pnawn!

Rydym ein dwy wedi llwyr fwynhau'r cerdded yn Bariloche, ond methu disgwyl am win Mendoza!!  Hynny a'r ffaith ein bod yn bwriadu teithio mewn steil ar un o fysus Andesmar.  

Saturday 14 May 2011

Mi Casita

Helo bawb!!!  Cael cyfle o'r diwedd i ysgrifennu am y profiad anhygoel gawsom yn Mi Casita. Roeddwn yn ymwybodol cyn cyrraedd fod y ganolfan hon yn le arbennig iawn a fod y staff sy'n gweithio yno yn ymroddedig iawn dan amgylchiadau anodd dros ben. Mae Mi Casita yn ganolfan sy'n cynnig gwasanaeth i blant difreintiedig ardal Esquel  gan gynnwys darparu cinio ar eu cyfer a gofal dydd i blant dan oed ysgol.



Dyma lun ohonom ni gyda Sylvia gweithiwr yn y ganolfan a Gladys a roddodd ni mewn cysylltiad a Mi Casita.Yr oedd siarad gyda Sylvia yn agoriad llygaid i ba mor anodd yw amgylchiadau byw y plant yn ogystal a sefyllfa ariannol fregus y ganolfan yn sgil toriadau i'r gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth. Golygai hyn fod Mi Casita wedi eu cyfyngu i gynnig cymorth i lai o blant  (y nifer wedi gostwng o 80 i 40 nmewn blwyddyn). Roedd yn amlwg fod hyn yn boendod mawr i`r rhai hynny oedd yn gweithio yno gan fod y gwasanaeth yn fodd o fonitro diogelwch plant oedd yn cael eu camdrin yn eu cartrefi a.y.b.


Roedd y staff a'r plant mor falch o'n gweld ni ac yn cael pizza i ginio  pan gyrrhaeddom ni. Roedd yn fraint mawr i gael ymuno a nhw i gael cinio ac yn brawf eto fod y rhai hynny  gyda'r lleiaf wastad mor barod i rannu ac roedd o'n fwy blasuis o'i herwydd. Roedd hefyd dystiolaeth bellach o'r haelionni wrth i ni glywed fod y ganolfan yn cefnogi prosiectau plant yn Affrica.





 

Cyn gadael rhoddwyd yr arian a gasglwyd (700 o bunnoedd sef  4000 peso.) Cawsom eithaf sioc o weld ymateb Sylvia oedd mor hapus. Sylweddolwyd fod yr arian oedd wedi ei gasglu ynn fwy na'r hyn dderbynniwyd gan y Llywodraeth y flwyddyn cynt a mynegodd y fuasai'r arian yn mynd yn bell iawn tuag at sicrhau dyfodol pellach i'r ganolfan.





Gallwn fyth ddiolch digon i bawb yn Mi Casita am y profiad a'r pleser o gael eu cyfarfod i gyd ac i bawb gyfrannodd mor hael at achos mor haeddiannol. Yr ydym yn gobeithio gallu parhau i gasglu mwy o arian i roi cymorth i'r ganolfan.  Diolch i chi gyd!!!

Friday 6 May 2011

Esquel

Trist oedd gadael Trevelin am amryw o resymau.  Roeddem wir wedi mwynhau yr Eisteddfod, y gymanfa a chyfarfod llawer o bobl hynod gyfeillgar.  Buom yn ffodus iawn hefyd o gael llety bendigedig yn Casa Verde gyda golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd a pherchnogion annwyl (diolch i Charly a Mirco am y croeso). 


Adeiladodd Charly y caban ei hun ac roedd ol llafur cariad yn amlwg yn y lle.  Roedd yn lle hynod dawel ac yn gyfle da i ymlacio a mwynhau ychydig o goginio dros vino tinto gyda'r nos!


Ar ol cyrraedd Esquel aethom am dro i Laguna La Zeta oedd yn daith o ryw 5km i fyny'r bryniau cyfagos.  Roedd rhannau o'r daith yn rhoi teimlad cyfarwydd i ni ar ol treulio cyhyd yn yr anialwch ond  wrth ddringo'n uwch sylweddoli mawredd yr Andes a'r eira mor dlws ar y copaon.  Er ein bod yn cerdded ar y ffordd am ran helaeth y daith, welson ni ddim llawer o geir (hyd yn oed wedi mentro gadael y camera ar 'timer' ar ganol y ffordd i dynnu'r llun yma!!)  Dyma'r brif ffordd rhwng Esquel a Cholila - carregog a dweud y lleiaf! 


Roedd yr olygfa ar ol cyrraedd Laguna La Zeta yn anhygoel a'r dwr mor llonydd.  Cawsom bicnic bach ger y llyn a gwylio dyn yn kayakio o'i amgylch.




Gan ein bod wedi cyrraedd y Laguna yn gynt na'r disgwyl penderfynu dal ymlaen i gerdded a cheisio darganfod Rio Percy.  Ond, dwi'n amau ein bod wedi camgymryd pa mor bell oedd o achos welson ni mohono fo er inni gerdded ryw 12 milltir i gyd!!  Ar ol cyrraedd yn ol a mwynhau cawod gynnes, ein traed ddim yn diolch i ni am ddilyn athrawiaeth "ella mai dros y bryn nesa 'ma fydd o!"
 

Ar ol noson braf o gwsg mentro allan eto (y tro hwn mewn tacsi!) i Felin Nant Fach a Rheadrau Nant y Fall yng Nghwm Hyfryd.  Y ffordd unwaith eto yn eithaf carregog.  Da gweld Cyngor Esquel yn atgyweirio'r ffordd efo, ia, mwy o gerrig ar ben y gwreiddiol!!  Yn y Felin fe wnaethon ni gyfarfod Mervyn Evans, wyr Dalar Evans, sylfaenydd y Felin.  Cawsom gyfle i weld y felin yn gweithio gan wylio'r hen olwyn ddwr yn troi.  Y tu mewn roedd y peiriannau i gyd yn malu'r gwenith ac yn didoli'r blawd yn wyn a brown. 


Hefyd gwelsom gartref Dalar Evans oedd yn llawn o'i hen eiddo a mwy o hanes am felinau'r ardal.  Cawsom hefyd hanes trist ei fab Madryn a laddwyd gan biwma gwyllt pan yn blentyn.  Cyn i'r piwma ddod yn ol i fwyta ei brae, lladdodd y teulu ddafad a gwenwyno'r cig a gosod hwnnw yn lle corff Madryn druan.  Darganfuwyd corff y piwma'r bore canlynol. 
Dychwelwyd i'r car a darganfod y gyrrwr tacsi yn mwynhau siesta!  Ar ol chwerthin a phendroni beth i'w wneud am chydig, magodd Non chydig o blwc a rhoi cnoc ar y ffenestr yn y gobaith y byddai'n deffro, ac yna sefyll yno'n codi llaw a gwenu arno - roedd o'n chwerthin efo ni, da ni'n meddwl!!


Ar hyd yr un ffordd roedd rheadrau Nant y Fall, sef cyfres o readrau trawiadol ynghanol coedwig hardd.  Taith braf ac ysgafn ar ol ddoe.  Dipyn o wybodaeth am blanhigion brodorol yno hefyd.


O'r cyfnod yr rydym wedi'i dreulio yn yr Ariannin hyd yma rydym wedi gweld ei fod yn lle gwleidyddol iawn lle mae protestiadau yn beth arferol.  Mae'r llyfrau taith yn cynghori twristiaid i gadw draw (ar ol tynnu llun neu ddau, dwi'n siwr!!)  Mae pobl Esquel yn pryderu ynglyn a chynlluniau cwmni o America i gloddio yn y mynyddoedd o amlgylch y dref a goblygiadau hynny ar eu hiechyd gan y byddai'n creu llawer o nwyon peryglus a o bosib yn llygru'r cyflewnwad dwr.  Gwelsom brotest ar y stryd a'r pobl yn gwaeddi "No a la mina!"  Mae'r un slogan hefyd i'w weld fel graffiti ar waliau ac ar y mynydd (wedi'i greu gan gerrig mawr) ac yn symbol trawiadol o angerdd y bobl leol yn erbyn y cynllun. 


Cawsom bnawn diddorol a llawn hwyl yn y Ganolfan Gymraeg yng nghwmni'r criw sy'n dod at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer eu Cymraeg (er fod Cymraeg bob un ohonynt yn gwbl rhugl!)  Esgus braf i gymdeithasu a chael hwyl.  Cyfle hefyd i ni'n dwy gael ymuno yng ngwers Clare gan ddarllen detholiad o Rhys Lewis!  Yn y llun gallwch hefyd weld Iwan Madog yn trio gwerthu copiau o Lais yr Andes, papur bro lleol.  Mae o yma yn gweithio fel swyddog Menter Patagonia Esquel a Threvelin.  Gyda'r nos caswom ein perswadio i ymuno yng nghlwb drama Iwan yn y Ganolfan a chwarae llwyth o gemau difyr ac ymarferiadau bach mewn grwp.  Criw hwyliog - Gladys, Clare, Liliana, Joyce a Cristina.  Mae dwy o'r merched, Lizzie a Cristina, yn gobeithio dod draw i Gymru ar gyfer Eisteddod Llangollen eleni.  Diolch i chi gyd unwaith eto am y croeso.   



Thursday 5 May 2011

Steddfod Trevelin

Helo Bawb!! Wel dyma ni ar Route 40 fel y gwelwch o'r llun isod yn gwneud ein ffordd o Rio Gallegos i Esquel. Yn anffodus wedi gorfod teithio Semi Cama (sef bws heb wely / un yn uwch na cefn Llama!!!!) am 18awr. Wedi addo i ni'n hunain byddwn yn teithio Cama o hyn allan fel udodd nain ma pawb angan gwely a sgidia cyfforddus achos os da chi'm yn un da chi yn y llall!!!


Cyrraedd Trevelin am 3y.p a gneud ein ffordd yn syth am y Steddfod. Er ein bod wedi bod yn edrych ymlaen, im yn siwr beth i ddisgwyl. Roedd y Steddfod yn cael ei chynnal yn y Club Social Fontana yng nghanol y dref - neuadd gymnasteg maint neuadd ysgol yn llawn plant afreolus gyda'r mamau yn trio cadw trefn, tebyg iawn i Steddfod Gylch adra!!!! Gweld llawer o wynebau cyfarwydd ynghyd a dau newydd, Enfys a Sion o Gaerdydd a oedd yn treulio amser ym Mhatagonia.


Roedd y cystadlaethau yn draddodiadol - unawdau, llefaru, dawnsio gwerin . Yr oedd yn ddiddorol clywed cystadlu yn y ddwy iaith (Cymraeg a Castellano) . Y plant bach mor ddel yn ei dillad dawnsio gwerin er nad oedd unrhyw drefn ar y rhai lleiaf un oedd tua pedair oed.  Difyr iawn darganfod fod dawnsio gwerin, canu cor a menter iaith cymraeg yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymraeg y Wladfa megis Ysgol yr Hendre yn Nhrelew. Diwrnod difyr ac yn eithaf sicr y bydd cystadlu brwd yfory wrth i'r oedolion ddod i'r llwyfan.

Roedd cystadlaethau'r oedolion yn llawer fwy amrywiol. Yn ogystal a'r cystadlaethau traddodiadol fel llefaru, unawdau a.y.b roedd cystadlaethau canu can roeddech wedi ei chyfansoddi, dawnsio tango, Unawd canu emyn. Siomedig oedd gweld fod neb wedi cystadlu ar y gystadlaeaeth canu sol - ffa ar y pryd!! Safon y cystadlu yn wych a lleisiau mor swynol. Y ddwy ohonom wedi mwynhau cystadlaethau y corau ac unawd Billi Hughes sy'n rhedeg Ysgol Gerdd y Gaiman. Uchafbwynt y cystadlu oedd y Coroni a'r Cadeirio. Diddorol gweld fod y ddwy gystadeuaeth yn cyd redeg - y goron ar gyfer barddoniaedd Castelliano ar gadair ar gyfer cerdd Gymraeg. Dymar tro cyntaf i'r gadair ar y chwith gael ei defnyddio yn y Wladfa. Darganfuwyd y gadair (a oedd yn dyddio o Eisteddfod yn y 1920au) mewn siop greiriau yn Lloegr. Penderfynnodd y Cymro oedd wedi ymweld a'r Wladfa mai yn yr Andes y dylai'r gadair fod.Yn drist iawn y diwrnod cyrrhaeddodd y gadair, bu farw'r gwr. Beirniadwyd gystadlaeaeth y Gadair gan Tudur Dylan a'r bardd buddugol oedd Owen Tudur Davies o Gwm Hyfryd. Gadael am tua 10 y.h ond aeth y cystadlu ymlaen tan 1.30 y.b ac yna swper yr eisteddfod tan 3!!!!!



Codi'n gynnar bore Sul i fynd i'r Gymanfa Ganu yng Nghapel Bethel yn Nhrevelin. Cael golwg sydyn o amgylch Ysgol Gymraeg yr Andes gyda Luned a Tegai cyn mynd i mewn i Gapel orlawn. Difyr oedd canu emynau cyfarwydd mewn Cymraeg a Sbaeneg. Roedd y canu'n anhygoel a thrueni nad oedd modd i fwy o Gymry ei fwynhau. Diwrnod braf gyda phawb yn cymdeithasu tu allan ac yn ffarwelio gyda ffrindiau oedd yn gadael i deithio dros y paith yn ol i'r Gaiman a Threlew. Ninnau hefyd yn ffarwelio a ffrindiau newydd a oedd wedi ein croesawu gymaint. Bydd rhaid dod yn ol rhyw ddydd........

Wel!!!! Yn dilyn  dyddiau o edrych ymlaen, dyma gyrraedd Casa Te Nain Maggie. Ty te sydd yn parhau i gael ei redeg gan gor wyres Maggie Freeman. Braidd yn od dod wyneb yn wyneb a darlun mawr o Nain Maggie, teimlad ei bod yn ein gwylio'n bwyta ac yn ein herio i fwyta'r mynydd o Sgons, cacen rhiwbob, cacen hufen, cacen jam llaeth, teisen ddu, caws, bara menyn, chutney tomato gwyrdd, jam a te dail mewn tebot anferth crand.Cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg yn y cefndir (gyda ambell un wyddelig gan gynnwys "Maggie" wrth gwrs!!!). Wedi stwffio'n hunain braidd ond werth bob briwsionyn.

Taith fer hanner awr i Esquel sydd nesaf ac ymweliadau a'r Ganofan Gymraeg yno ac wrth gwrs Mi Casita!