Wedi dianc o dathliadau Cusco am chydig o ddyddiau a darganfod hafan braf ym mhentref Ollytaytambo sydd wedi ei adeiladu o fewn adfeilion Incaidd. Aros mewn hostel a chyfarfod dynes glen o'r enw Katy a awgrymodd nifer o lefydd difyr i ni fynd i gerdded. Wir wedi mwynhau cerdded yn y mynyddoedd uwch y pentref a'r golygfeydd anhygoel ar hyd y daith.
Difyr hefyd oed gwrando ar Katy yn son am yr etholiadau diweddar sydd wedi bod yn Peru. Fel arfer dywedodd mai gan bobl Lima oedd y bleidlais gryfaf, ond nid y tro hwn. Ollanta ennillodd (ffefryn y tlodion, meddai hi) o drwch blewyn a Keiko yn ail. Rydym wedi gweld llawer iawn o sloganau wedi'u paentio ar waliau yn genfogol i'r ddau ymgeisydd.
Uchafbwynt ein cyfnod yn Ollytaytambo oedd ymweld a'r adfeilion. Chafodd yr Inciaid ddim cyfle i orffen y safle hwn cyn i'r Sbaenwyr ymosod a dinistrio llawer o'r hyn oedd wedi ei gwblhau. Caer oedd Ollytaytambo a gafodd ei hadeiladu yno gan bod modd gweld i fyny ac i lawr y dyffryn o'r safle pwerus hwn.
Penderfynu rhannu tacsi gyda dau arall oedd yn aros yn yr hostel i ymweld a'r chwarel halen, Moray a phentref Chincero. Roedd y chwarel halen ger Maras yn ddifyr iawn ac yn dal i gynhyrchu halen gyda'r un technegau. Gwelsom bobl yn casglu'r halen o'r pyllau enfawr ar hyd ochr y mynydd.
Roedd gweld Moray am y tro cyntaf yn brofiad wnaiff aros efo ni am byth - y cylchoedd naturiol yn y ddaear yn denu'r llygaid a'r uchder yn troi'r coesau yn chydig o jeli! Yma, credir bod yr Inciaid yn tyfu cnydau ac yn arbofi gyda mathau gwahanol o datws a llysiau gan fod y lefelau gwahanol yn cynnig cyfle i weld y ffordd roed y cnydau yn ymayteb i dymhereddau amrywiol. Tra roedden ni yna roedd yna ddau glown yn cynnal ryw seremoni ysbrydol efo CD, er mawr siom i Awen oedd yn grediniol ei bod yn clywed pobl frodorol yn canu islaw!
Gorffen y diwrnod efo ymweliad i Chinchero a'r Eglwys hardd yno. Cael cyfle i gael cip sydyn o amgylch y farchnad. Mae pobl Chinchero yn enowg yn yr ardal am wau tecstiliau hardd ac roedd llawer o fatiau a blancedi lliwgar ar werth yno. Dyna ni'n meddwl bod antur y diwrnod ar ben, nes i ni drio dal bys lleol yn ol i Ollytaytambo. Y colectivo yn cyrraedd a phawb yn rhuthro am y cyntaf i gael set. Dyma ni fel twristiaid parchus yn gadael i'r bobl leol fynd gyntaf - pawb ond un ddynes fach gloff oedd yn stryffaglio i gael ei hun i fyny'r stepiau. Ona na phoener, roedd Awen wrth law i'w chodi i fyny tra roedd rhywun ar y bws yn trio ei thynnu i mewn yr ochr arall - golygfa a hanner faswn i wedi bod wrth fy modd yn cael y camera'n handi!!
Trip ar y tren i Aguas Caliente nesaf - pentref Machu Picchu - methu disgwyl!
No comments:
Post a Comment