Hola!! Dyma ni yn ol lle ddechreuon ni - Buenos Aires!! Teimlad od oedd cyrraedd yn ol i'r maes awyr a ninnau'n gwybod yn iawn lle i ddal y bws i'r canol ayb ac yn meddwl am ba mor nerfus a chyffrous oeddan ni wrth gyrraedd tri mis yn ol. Dim ond diwrnod oedd gennym ni yma ac felly mi wnaethon nigrwydro o amgylch y canol a mwynhau'r awyrgylch am y tro olaf. Gyda'r nos penderfynu mynd draw i ardal Puerto Madero i gael swper. Mae'r ardal hon yn y dociau wedi manteisio ar fuddsoddiannau mawr yn ddiweddar (yn debyg i ddociau Llundain) ac mae o rwan yn le braf i fynd am dro ac i fwynhau pryd o fwyd.
Fe gawson ni awgrym bod swper da ym mwyty Siga La Vaca a chawson ni ddim ein siomi. Swper tenedor libre (all you can eat!) efo'r salad bar mwyaf anhygoel, y grill yn llawn cig o bob math, gwin am ddim a phwdin yn y pris!! Hyn i gyd am lai na phymtheg punt!! Mi oedden ni yn yein seithfed nef fel y medrwch chi ddychmygu!! Noson wych i orffen y trip gyda boliau llawn yn barod am yr awyren fory!!
Wel, dyma ni wedi pacio ac yn barod i gychwyn am y maes awyr. Dan ni'n cyrraedd yn ol ym Manceinion amser cinio dydd Mercher (cofiwch ddod i nol ni Huwsiaid!!!) Diolch i chi gyd am ddilyn y daith, gobeithio bod rhywfaint ohono fo wedi bod yn ddiddorol i chi, ac yn bwysicach na dim - edrych mlaen i weld pawb yn fuan iawn, iawn!!! Adios amigos, hasta luego!!xxxxxxxx
No comments:
Post a Comment