Dyma ni wedi cyrraedd y rhan 'gwylia' o'r trip!! O yndi, mae'r tri mis wedi bod yn hollol anhygoel ond hefyd yn waith blinedig trefnu a teithio (rhwng yr holl fwynhau, wrth gwrs!) Ond oeddan ni wedi penderfynu cyn cychwyn y bysa ni'n cael ryw bum diwrnod ar y diwedd i ymlacio'n llwyr. A dwi'n meddwl ei bod hi'n beth braf i gael cyfle i anadlu a gwerthfawrogi'r holl brofiada gwych dan ni wedi'u cael.
Yn sicr mi oedd Playa Pocitas ger tref Mancora yng ngogledd Peru yn ateb y briff! Gwesty braf iawn reit ar y traeth, tywydd perffaith a'r bwyd mor mwyaf ffres a blasaus. Heb os, mi wnaethon ni ymlacio'n llwyr a mwynhau bob eiliad!! Ag mi oedd yna ambell 'ffrind' digon diniwed yn dod i ymweld efo ni wrth y pwll bob hyn a hyn i gael diod!! Gan ein bod wedi diogi am bump diwrnod solet, does yna ddim llawer o storis, felly mi wnawn ni adael i'r lluniau siarad drostynt eu hunain.
Un post arall o Buenos Aires ag wedyn mi fydda ni ar ein ffordd adra. Hwyl!!xxxxx
No comments:
Post a Comment