Sunday 10 April 2011

Parilla a Tango

Da ni ar fin gadael Buenos Aires felly dyma chydig o hanes y pedwar diwrnod anhygoel diwethaf.

Cawsom ddechrau emosiynol iawn yn y Plaza de Mayo yn gwylio sefydliad merched y Plaza de Mayo yn gorymdeithio y tu allan i´r Casa Rosada er cof am eu plant a gafodd eu cipio aú lladd yn ystod y rhyfel cartref. Profiad trist ond yn atgoffa rhywun o´r hanes a bortreadwyd yn y ffilm Imagining Argentina.


Rhag ofn bo hynny ddim digon trist penderfynnu mynd i fynwent Recoletta i weld bedd Evita. Wel !! Y lle mwyaf od i ni´n dwy fod erioed gyda´r eirch i gyd ar sioe mewn "shediau" marmor a miloedd o gathod gwyllt yn patrolio´r lle!!!!. Bedd Eva Peron, eitha trist o weld ymateb pobl lleol sydd yn amlwg gyda meddwl mawr ohoni o hyd. Rhag ofn fod gan rhywun ddiddordeb mae´r shed drws nesa iddi ar werth!!!



Wedi cael diwrnod braf iawn yn crwydro´r parciau yn Palermo ddoe.  You can take the girl out of the country . . . Wedi gweld y rhai sy´n cerdded cwn gyda tua 12 o gwn yr un - pwy oedd yn arwain pwy dan ni ddim yn siwr!!  Yn y parc roedd ´na ardd rosod hyfryd efo parotiaid gwyrdd hardd yn y coed.  Hefyd wedi mwynhau gweld fersiwn yr Ariannin o aerobics - ryw fath o salsa awyr agored a cerddoriaeth yn blastio dros y lle - gawson ni wigl bach mae´n rhaid cyfaddef!!  Ger Palermo roedd ´na ddarn anferth o gelf - Floralis Generica - roedd o´n cau pan oedd hi´n dywyll ac yn agor wrth i´r dydd fynd rhagddo ac yn cau eto gyda´r nos.  Mi oedd o´n dipyn o olygfa.



Heddiw, aethon ni i´r farchnad yn San Telmo ar y Paza Dorrego - dwi´n meddwl ei fod o´r un maint a Rhuthun!!  Cael cinio bendigedig mewn bwyty bychan gyda cwpl yn dawnsio tango (mor agos bron i´r gwydryn vino gael cnoc!)  Pnawn braf iawn yn crwydro o amgylch y lle a mwynhau´r awyrgylch a´r gerddoriaeth fyw.



O ran bwyd, aetho ni i parilla neithiwr a mwynhau´r stecen ora rioed!!  Wnaiff geiriau ddim gwneud cyfiawnder efo hi felly jesd coeliwch ni bod o´n LYFLI!!  Hefyd wedi trio empanada (cornish pasty yr Ariannin) oedd yn ddigon blasus ond wel ni beidio eu mwynhau nhw gormod!  Tywydd dal yn lyfli (tua 25 gradd heddiw) ond mi wnaiff hi oeri rwan ein bod yn teithio tua´r De.





Gadael ar y bws heno i Puerto Madryn - 18awr ond wedi cael coche cama lle mae´r seti´n mynd yn ol fel gwely ac maen nhw´n gweini bwyd arno fo hefyd - awyren daear!!  Rwan dan ni´n dechra cam nesa´r daith.  Daw´r post nesa o´r Wladfa . . .

1 comment:

  1. Wedi mwynhau darllen am eich trafals ac yn eiddigeuddus iawn ond mae'r tywydd braf ganddon ni hefyd , dy fam na fi ddim ddisio prynnu y sied diolch gormod o gathod yna . cofion atoch eich dwy .

    ReplyDelete