Hola o Borth Madryn! Wedi cael cwpl o ddyddia braf iawn yma er mae´r Hydref ar ei ffordd dan ni´n ama! Wedi dod ar draws cofeb i ferched y Wladfa a plac gan blant Ysgol Madryn i ddathlu canmlwyddiant y Glaniad. Aethom i´r Museo del Desembargo yn y pnawn a chyfarfod ein Cymraes gyntaf - Delia Evans oedd yn wreiddiol o Dolavon.
Roedd yr amgueddfa´n ddiddorol iawn ac yn adrodd yr hanes gyda darnau o ddyddiaduron rhai o´r Cymry cyntaf. Hanes difyr hefyd am sut oedd yr Indiaid wedi helpu´r Cymry´n fawr (er fod un stori am Gymro o´r enw Edwin Cynrig Willimas wedi cael ei adael yng ngwaelod ffynnon gan ei weision!)
Islaw i´r amgueddfa roedd Punto Cuevas sef yr ogofau oedd y Cymry wedi eu creu ar gyfer byw ynddynt am yr wythnosau cyntaf. Diddorol nad oedd rhai o´r Archentwyr lleol yn dal ddim yn credu mai´r Cymry oedd wedi eu creu ond eu bod yn hytrach wedi eu ffurfio´n naturiol gan y mor. Dangos amodau mor galed oedd yma ar y dechrau.
Pnawn ddoe wedi cerdded i Playa Parana ar hyd lon lychlyd ond y daith yn bendant werth yr ymdrech. Golygfeydd anhygoel yn ol tua´r dref.
Gadael pnawn ma i Drelew ac yn edrych ymlaen at ran nesa´r daith (a phanad a sgonsan!) Gobeithio bod pawb yn iawn. Cofion i chi gyd xxxx
No comments:
Post a Comment