Monday 25 April 2011

Pasg Hapus o El Calafate

Pasg hapus i chi gyd!!  Clywed bo chi wedi bod yn mwynhau cyfnod o dywydd braf - neis iawn!!  Wedi dod lawr i´r pwynt pellaf i´r de y byddwn yn mynd yn ystod y daith - El Calafate.  Mae hi´n ardal hynod o braf a thlws a dan ni´n mwynhau yn fawr iawn (er ei bod hi chydig yn oer i gymharu efo´r tywydd braf dan ni wedií gael yn Buenos Aires a Puerto Madryn).  

Aethom i Lagua Nimez ar y diwrnod cyntaf i weld y bywyd gwyllt gan gynnwys fflamingos a llwyth o adar amrywiol.  Golygfeydd bendigedig o´r mynyddoedd ar lanau Lago Argentino.  Dyma chydig o luniau o´r daith honno.





Y diwrnod canynol aethom i weld galcier Perito Moreno sydd ryw awr o El Calafate.  Dyma´r  unig glacier yn y byd sydd yn symud ac yn cadw´í faint.  I roi rhai o´r lluniau mewn perspectif mae ei flaen yn 5km a´í daldra yn tua 60m ond yn tybio ei fod tua teirgwaith hynny o dan y dwr. 

Penderfynu dal cwch aeth a ni at ymylon y galcier - siwrnae hynod wyntog ond yr olygfa gyntaf ohono yn cymryd ein gwynt.  Roedd yn llawer mwy nag oedd y lluniau oeddem wedi´í gweld yn gyfleu ac yn edrych reit od ynghanol y mynyddoedd.  Tirwedd digon tebyg i adra ond yn ddim syndod o gofio mai rhewlif tebyg a greodd Dyffryn Ogwen hefyd.  Welson ni mo hanner y galcier o´r gwch ac o fod mymryn uwch ei ben roeddem yn gweld pa mor bell roedd o´n ymestyn heb son am ddychymgu pa mor ddyfn oedd o dan y dwr hefyd - waw!  Roedd rhannau ohono yn las, las ac yn edrych yn anhygoel yn erbyn lliwiau dail yr hydref.  Wedi gweld rhannau mawr (ish!) o´r glacier yn disgyn i´r dwr ac yn gwneud anferth o glec.  Gnweud i rywun feddwl pa mor gyflym mae rhai o glaciers yr Antartica yn diflannu a ddim yn tyfu yn ol fel Perito Moreno.
  
Pwynt pwysig arall ydi fod caffi´r glacier yn gwneud un o´r siocledi poeth gora yn y byd - Y Calafate!  Meddwl ein bod wedi ei haeddu fo ar ol cerdded yn yr oerfel trwy´r pnawn!  






Wedi cael hostel braf iawn yn Calafate efo golygfeydd gwych dros Laguno Nimez a Lago Argentino.  Lle braf i ymlacio.  El Calafate ei hun yn le od - y lle rywle rhwng pentref yn y Swistir a Betws y Coed ac yn amlwg wedi´í greu ar gyfer twristiaid sydd eisiau ymweld a´r glaciers ond yn le dymunol er hynny. 

Wedi mynd am ddiwrnod i El Chalten i gerdded ac i gael cipolwg ar fynydd Fitz Roy.  Ond yn anffodus oedd Fitz Roy wedi penderfynu cuddio oddi wrthym tu ol i gymylau duon!  Wedi cerdded rhyw fymryn a gwylio triathlon lleol efo pobl yn lyb socian bechod.  Lle braf dwi´n siwr (yn yr haf!)  Yn amlwg roedd y tymor twristaidd yn dirwyn i ben ond fel ddudodd y warden yn y Par Cenedlaethol - os fysa hi´n braf yno o hyd fysa na ddim gymaint o glaciers!  Ar y ffordd adra, llwyddo i gael cip sydyn ar yr hen Fitz Roy a hefyd glacier Viedma sydd yn dipyn mwy o faint na Perito Moreno - tua 4 gwaith yn fwy.

Dal bws pawn ma i Rio Gallegos ac yna i Trevelin erbyn y penwythnos ar gyfer yr Eisteddfod.  Edrych ymlaen i ddal i fyny efo ffrindiau wnaethon ni yn y Gaiman.  Clywed bod trip o Gymru wedi gadael am Batagonia felly ella y bydd ein llwybrau´n croesi rhyw ben - gawn ni weld!  

No comments:

Post a Comment