Thursday 5 May 2011

Steddfod Trevelin

Helo Bawb!! Wel dyma ni ar Route 40 fel y gwelwch o'r llun isod yn gwneud ein ffordd o Rio Gallegos i Esquel. Yn anffodus wedi gorfod teithio Semi Cama (sef bws heb wely / un yn uwch na cefn Llama!!!!) am 18awr. Wedi addo i ni'n hunain byddwn yn teithio Cama o hyn allan fel udodd nain ma pawb angan gwely a sgidia cyfforddus achos os da chi'm yn un da chi yn y llall!!!


Cyrraedd Trevelin am 3y.p a gneud ein ffordd yn syth am y Steddfod. Er ein bod wedi bod yn edrych ymlaen, im yn siwr beth i ddisgwyl. Roedd y Steddfod yn cael ei chynnal yn y Club Social Fontana yng nghanol y dref - neuadd gymnasteg maint neuadd ysgol yn llawn plant afreolus gyda'r mamau yn trio cadw trefn, tebyg iawn i Steddfod Gylch adra!!!! Gweld llawer o wynebau cyfarwydd ynghyd a dau newydd, Enfys a Sion o Gaerdydd a oedd yn treulio amser ym Mhatagonia.


Roedd y cystadlaethau yn draddodiadol - unawdau, llefaru, dawnsio gwerin . Yr oedd yn ddiddorol clywed cystadlu yn y ddwy iaith (Cymraeg a Castellano) . Y plant bach mor ddel yn ei dillad dawnsio gwerin er nad oedd unrhyw drefn ar y rhai lleiaf un oedd tua pedair oed.  Difyr iawn darganfod fod dawnsio gwerin, canu cor a menter iaith cymraeg yn rhan o gwricwlwm ysgolion Cymraeg y Wladfa megis Ysgol yr Hendre yn Nhrelew. Diwrnod difyr ac yn eithaf sicr y bydd cystadlu brwd yfory wrth i'r oedolion ddod i'r llwyfan.

Roedd cystadlaethau'r oedolion yn llawer fwy amrywiol. Yn ogystal a'r cystadlaethau traddodiadol fel llefaru, unawdau a.y.b roedd cystadlaethau canu can roeddech wedi ei chyfansoddi, dawnsio tango, Unawd canu emyn. Siomedig oedd gweld fod neb wedi cystadlu ar y gystadlaeaeth canu sol - ffa ar y pryd!! Safon y cystadlu yn wych a lleisiau mor swynol. Y ddwy ohonom wedi mwynhau cystadlaethau y corau ac unawd Billi Hughes sy'n rhedeg Ysgol Gerdd y Gaiman. Uchafbwynt y cystadlu oedd y Coroni a'r Cadeirio. Diddorol gweld fod y ddwy gystadeuaeth yn cyd redeg - y goron ar gyfer barddoniaedd Castelliano ar gadair ar gyfer cerdd Gymraeg. Dymar tro cyntaf i'r gadair ar y chwith gael ei defnyddio yn y Wladfa. Darganfuwyd y gadair (a oedd yn dyddio o Eisteddfod yn y 1920au) mewn siop greiriau yn Lloegr. Penderfynnodd y Cymro oedd wedi ymweld a'r Wladfa mai yn yr Andes y dylai'r gadair fod.Yn drist iawn y diwrnod cyrrhaeddodd y gadair, bu farw'r gwr. Beirniadwyd gystadlaeaeth y Gadair gan Tudur Dylan a'r bardd buddugol oedd Owen Tudur Davies o Gwm Hyfryd. Gadael am tua 10 y.h ond aeth y cystadlu ymlaen tan 1.30 y.b ac yna swper yr eisteddfod tan 3!!!!!



Codi'n gynnar bore Sul i fynd i'r Gymanfa Ganu yng Nghapel Bethel yn Nhrevelin. Cael golwg sydyn o amgylch Ysgol Gymraeg yr Andes gyda Luned a Tegai cyn mynd i mewn i Gapel orlawn. Difyr oedd canu emynau cyfarwydd mewn Cymraeg a Sbaeneg. Roedd y canu'n anhygoel a thrueni nad oedd modd i fwy o Gymry ei fwynhau. Diwrnod braf gyda phawb yn cymdeithasu tu allan ac yn ffarwelio gyda ffrindiau oedd yn gadael i deithio dros y paith yn ol i'r Gaiman a Threlew. Ninnau hefyd yn ffarwelio a ffrindiau newydd a oedd wedi ein croesawu gymaint. Bydd rhaid dod yn ol rhyw ddydd........

Wel!!!! Yn dilyn  dyddiau o edrych ymlaen, dyma gyrraedd Casa Te Nain Maggie. Ty te sydd yn parhau i gael ei redeg gan gor wyres Maggie Freeman. Braidd yn od dod wyneb yn wyneb a darlun mawr o Nain Maggie, teimlad ei bod yn ein gwylio'n bwyta ac yn ein herio i fwyta'r mynydd o Sgons, cacen rhiwbob, cacen hufen, cacen jam llaeth, teisen ddu, caws, bara menyn, chutney tomato gwyrdd, jam a te dail mewn tebot anferth crand.Cerddoriaeth draddodiadol Gymraeg yn y cefndir (gyda ambell un wyddelig gan gynnwys "Maggie" wrth gwrs!!!). Wedi stwffio'n hunain braidd ond werth bob briwsionyn.

Taith fer hanner awr i Esquel sydd nesaf ac ymweliadau a'r Ganofan Gymraeg yno ac wrth gwrs Mi Casita!

No comments:

Post a Comment