Tuesday 31 May 2011

Santiago a Valapraiso

Wel dyma gyfnod newydd mewn gwlad newydd - hola Chile!!! 

Ar ol siwrnae 6 awr a 26 o droadau hairpin i lawr yr Andes dyna ni'n cyrraedd Chile.  Lliwiau anhygoel a'r tirwedd yn newid ei liw unwaith eto yn greigiau coch eu lliw.  Er clywed llawer am bobl yn aros oriau yn y checkpoint, cawsom fynd drwodd mewn ryw awr.  Mae'n rhaid fod bag Non yn drewi gan i'r ci cyffuriau wrthod ei arogli! 



Er i Santiago ddioddef sawl daeargryn, mae wedi llwyddo i gadw ei chymeriad gyda nifer fawr o adeiladau hardd.  Fel byddai rhywun yn ddisgwyl gyda phrifddinas roedd y ddinas yn llawer prysurach ac yn llawn traffig.  Ond wedi llwyddo i ffindio lle bach braf yn y Mercado Central - adeilad hanesyddol a adeiladwyd ym Mhrydain a'r drosglwyddo i Santiago ar gwch.  Yr adeilad yn atgoffa rhywun o orsaf tren yn Llundain.  Mwynhau cinio pysgod yno. 



Treulio diwrnod yn cerdded yn Cerro San Cristobal - mynydd yng nghanol Santiago.  Wrth gerdded i fyny sylweddolom pa mor ddifrifol ydi'r broblem llygredd wrth edrych i lawr dros y ddinas.  Roedd yn daith ryw 5km i gopa'r mynydd, ond werth bob cam wrth i'r ddwy ohonom ddychryn ar faint cerflun o'r forwyn fair, a pha mor dlws oedd o.  Roedd yr ardal o amgylch yn le tawel iawn gyda gerddi a dwy eglwys gyda theimlad sanctaidd iawn yna.

Penderfynu mynd am dro i dref Valparaiso sydd wedi'i hadeiladu ar gyfres o fryniau.  Roeddem wedi clywed llawer o ganmol i'r lle ond cawsom sioc ar ol cyrraedd a gweld lle mor llwm a thlawd.  Aethom ar fys i fyny Cerro Florida i weld cartref bardd enwog o Chile, Pablo Neruda.  Ty 5 llawr anhygoel yr olwg wedi'i gynllunio gan y bardd ei hun.  Teimlad o bresenoldeb y bardd ei hun wrth inni ddilyn hanes ei fywyd a'r addurniadau bohemaidd oedd yn ddiddorol iawn. 




Wedyn mynd i fyny Cerro Concepcion ar funicular (tren bach) sydd, medda nhw, yn cynnig yr olygfa orau o Valparaiso.  Doedden ni ddim mor siwr!  Achubwyd y diwrnod gan gwrw bach i Non a bicardi i Awen - sioc pan lenwodd y gwydr i 3/4 llawn - taith yn ol i lawr yn fwy difyr a dweud y lleiaf a Valparaiso yn edrych fymryn yn fwy prydferth!!

No comments:

Post a Comment