Helo ers amser maith!! Mae diffyg cyfrifiadur gyda chryfder i lawrlwytho lluniau a'r ffaith ein bod yn mwynhau ein hunain gymaint wedi ein rhwystro rhag dal i fyny efo'r newyddion - felly dyma ymdrech i ddiweddaru'r stori hyd yma . . .
Mae Bariloche yn le hynod o ddel gafodd ei sefydlu gan fewnfudwyr o'r Swistir, sy'n egluro pensaerniaeth yr ardal - mae'n llawn cabanau a thai bach wedi'u hadeiladu o bren. Roedd gweld hyn gyda mynyddoedd a chopaon eira yn ein hatgoffa o'r Swistir. Wrth gwrs, mae Bariloche hefyd yn enwog iawn am ei siocled, ond mwy am hynny yn y munud!
Treulio amser yn cerdded o amgylch coedwigoedd a llynnoedd trawiadol o dlws - ardal Llao Llao - gyda lliwiau'r Hydref yn adlewyrchu ar ddwr llonnydd. Cawsom gyfle i hwylio ar gwch i Ynys o'r enw Puerto Blest - ynyd hollol anghysbell gyda dim ond un person yn byw arni, sef y warden. Aethom o amgylch y goediwg yno lle roedd coed hyd at 1500 oed. Cerdded wedyn yn ol hyd lannau'r llyn gan edrych ar ogofau byach ble roedd dyfrgwn yn byw. Taith faith wedyn i fyny 650 o stepiau i ben rhaeadr anferth.
Un o'r profiadau brafiaf yn Bariloche oedd mynd i ben Cerro Campanario - WAW!!! Wedi mynd i fyny ar y ski lifft oedd yn brofiad yn ei hun!! Y ddwy ohonom methu coelio pa mor dlws oedd yr olygfa - gweld mor bell i bob cyfeiriad, ac wrth gwrs, tynnu cant a mil o luniau!! Cawsom apple strudel a quillmers (cwrw lleol) ar y copa - nefoedd!!
Ar ein diwrnod olaf doedd ond un peth i'w wneud - crwydro o gwmpas y siopoau siocled gan geisio penderfyu pa rai i'w samplo!! Dewis siop yn y diwedd - llygaid Non ymhob man yn methu canolbwyntio oherwydd yr holl ddewis. Llwyddo i brynu ryw 6 darn yn y diwedd a hithau'n amddiffyn y bag am weddill y pnawn!
Rydym ein dwy wedi llwyr fwynhau'r cerdded yn Bariloche, ond methu disgwyl am win Mendoza!! Hynny a'r ffaith ein bod yn bwriadu teithio mewn steil ar un o fysus Andesmar.
No comments:
Post a Comment