Friday 6 May 2011

Esquel

Trist oedd gadael Trevelin am amryw o resymau.  Roeddem wir wedi mwynhau yr Eisteddfod, y gymanfa a chyfarfod llawer o bobl hynod gyfeillgar.  Buom yn ffodus iawn hefyd o gael llety bendigedig yn Casa Verde gyda golygfeydd anhygoel o'r mynyddoedd a pherchnogion annwyl (diolch i Charly a Mirco am y croeso). 


Adeiladodd Charly y caban ei hun ac roedd ol llafur cariad yn amlwg yn y lle.  Roedd yn lle hynod dawel ac yn gyfle da i ymlacio a mwynhau ychydig o goginio dros vino tinto gyda'r nos!


Ar ol cyrraedd Esquel aethom am dro i Laguna La Zeta oedd yn daith o ryw 5km i fyny'r bryniau cyfagos.  Roedd rhannau o'r daith yn rhoi teimlad cyfarwydd i ni ar ol treulio cyhyd yn yr anialwch ond  wrth ddringo'n uwch sylweddoli mawredd yr Andes a'r eira mor dlws ar y copaon.  Er ein bod yn cerdded ar y ffordd am ran helaeth y daith, welson ni ddim llawer o geir (hyd yn oed wedi mentro gadael y camera ar 'timer' ar ganol y ffordd i dynnu'r llun yma!!)  Dyma'r brif ffordd rhwng Esquel a Cholila - carregog a dweud y lleiaf! 


Roedd yr olygfa ar ol cyrraedd Laguna La Zeta yn anhygoel a'r dwr mor llonydd.  Cawsom bicnic bach ger y llyn a gwylio dyn yn kayakio o'i amgylch.




Gan ein bod wedi cyrraedd y Laguna yn gynt na'r disgwyl penderfynu dal ymlaen i gerdded a cheisio darganfod Rio Percy.  Ond, dwi'n amau ein bod wedi camgymryd pa mor bell oedd o achos welson ni mohono fo er inni gerdded ryw 12 milltir i gyd!!  Ar ol cyrraedd yn ol a mwynhau cawod gynnes, ein traed ddim yn diolch i ni am ddilyn athrawiaeth "ella mai dros y bryn nesa 'ma fydd o!"
 

Ar ol noson braf o gwsg mentro allan eto (y tro hwn mewn tacsi!) i Felin Nant Fach a Rheadrau Nant y Fall yng Nghwm Hyfryd.  Y ffordd unwaith eto yn eithaf carregog.  Da gweld Cyngor Esquel yn atgyweirio'r ffordd efo, ia, mwy o gerrig ar ben y gwreiddiol!!  Yn y Felin fe wnaethon ni gyfarfod Mervyn Evans, wyr Dalar Evans, sylfaenydd y Felin.  Cawsom gyfle i weld y felin yn gweithio gan wylio'r hen olwyn ddwr yn troi.  Y tu mewn roedd y peiriannau i gyd yn malu'r gwenith ac yn didoli'r blawd yn wyn a brown. 


Hefyd gwelsom gartref Dalar Evans oedd yn llawn o'i hen eiddo a mwy o hanes am felinau'r ardal.  Cawsom hefyd hanes trist ei fab Madryn a laddwyd gan biwma gwyllt pan yn blentyn.  Cyn i'r piwma ddod yn ol i fwyta ei brae, lladdodd y teulu ddafad a gwenwyno'r cig a gosod hwnnw yn lle corff Madryn druan.  Darganfuwyd corff y piwma'r bore canlynol. 
Dychwelwyd i'r car a darganfod y gyrrwr tacsi yn mwynhau siesta!  Ar ol chwerthin a phendroni beth i'w wneud am chydig, magodd Non chydig o blwc a rhoi cnoc ar y ffenestr yn y gobaith y byddai'n deffro, ac yna sefyll yno'n codi llaw a gwenu arno - roedd o'n chwerthin efo ni, da ni'n meddwl!!


Ar hyd yr un ffordd roedd rheadrau Nant y Fall, sef cyfres o readrau trawiadol ynghanol coedwig hardd.  Taith braf ac ysgafn ar ol ddoe.  Dipyn o wybodaeth am blanhigion brodorol yno hefyd.


O'r cyfnod yr rydym wedi'i dreulio yn yr Ariannin hyd yma rydym wedi gweld ei fod yn lle gwleidyddol iawn lle mae protestiadau yn beth arferol.  Mae'r llyfrau taith yn cynghori twristiaid i gadw draw (ar ol tynnu llun neu ddau, dwi'n siwr!!)  Mae pobl Esquel yn pryderu ynglyn a chynlluniau cwmni o America i gloddio yn y mynyddoedd o amlgylch y dref a goblygiadau hynny ar eu hiechyd gan y byddai'n creu llawer o nwyon peryglus a o bosib yn llygru'r cyflewnwad dwr.  Gwelsom brotest ar y stryd a'r pobl yn gwaeddi "No a la mina!"  Mae'r un slogan hefyd i'w weld fel graffiti ar waliau ac ar y mynydd (wedi'i greu gan gerrig mawr) ac yn symbol trawiadol o angerdd y bobl leol yn erbyn y cynllun. 


Cawsom bnawn diddorol a llawn hwyl yn y Ganolfan Gymraeg yng nghwmni'r criw sy'n dod at ei gilydd yn wythnosol i ymarfer eu Cymraeg (er fod Cymraeg bob un ohonynt yn gwbl rhugl!)  Esgus braf i gymdeithasu a chael hwyl.  Cyfle hefyd i ni'n dwy gael ymuno yng ngwers Clare gan ddarllen detholiad o Rhys Lewis!  Yn y llun gallwch hefyd weld Iwan Madog yn trio gwerthu copiau o Lais yr Andes, papur bro lleol.  Mae o yma yn gweithio fel swyddog Menter Patagonia Esquel a Threvelin.  Gyda'r nos caswom ein perswadio i ymuno yng nghlwb drama Iwan yn y Ganolfan a chwarae llwyth o gemau difyr ac ymarferiadau bach mewn grwp.  Criw hwyliog - Gladys, Clare, Liliana, Joyce a Cristina.  Mae dwy o'r merched, Lizzie a Cristina, yn gobeithio dod draw i Gymru ar gyfer Eisteddod Llangollen eleni.  Diolch i chi gyd unwaith eto am y croeso.   



No comments:

Post a Comment