Dyma lun ohonom ni gyda Sylvia gweithiwr yn y ganolfan a Gladys a roddodd ni mewn cysylltiad a Mi Casita.Yr oedd siarad gyda Sylvia yn agoriad llygaid i ba mor anodd yw amgylchiadau byw y plant yn ogystal a sefyllfa ariannol fregus y ganolfan yn sgil toriadau i'r gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth. Golygai hyn fod Mi Casita wedi eu cyfyngu i gynnig cymorth i lai o blant (y nifer wedi gostwng o 80 i 40 nmewn blwyddyn). Roedd yn amlwg fod hyn yn boendod mawr i`r rhai hynny oedd yn gweithio yno gan fod y gwasanaeth yn fodd o fonitro diogelwch plant oedd yn cael eu camdrin yn eu cartrefi a.y.b.
Roedd y staff a'r plant mor falch o'n gweld ni ac yn cael pizza i ginio pan gyrrhaeddom ni. Roedd yn fraint mawr i gael ymuno a nhw i gael cinio ac yn brawf eto fod y rhai hynny gyda'r lleiaf wastad mor barod i rannu ac roedd o'n fwy blasuis o'i herwydd. Roedd hefyd dystiolaeth bellach o'r haelionni wrth i ni glywed fod y ganolfan yn cefnogi prosiectau plant yn Affrica.
Cyn gadael rhoddwyd yr arian a gasglwyd (700 o bunnoedd sef 4000 peso.) Cawsom eithaf sioc o weld ymateb Sylvia oedd mor hapus. Sylweddolwyd fod yr arian oedd wedi ei gasglu ynn fwy na'r hyn dderbynniwyd gan y Llywodraeth y flwyddyn cynt a mynegodd y fuasai'r arian yn mynd yn bell iawn tuag at sicrhau dyfodol pellach i'r ganolfan.
No comments:
Post a Comment