Wednesday 1 June 2011

San Pedro de Atacama

Cawsom daith hir ond digon pleserus yr holl fordd i fyny o Santiago i San Pedro de Atacama.  Trueni nad oes gennym amser i gael gweld mwy o Chile ond rhaid gwneud y mwyaf o'r amser sydd gennym!  Mae San Pedro yn dref fach iawn gyda phoblogaeth o ryw 2,000.  Mae hyn yn golygu ei fod yn le braf iawn i grwydro ac yn dipyn mwy diogel na llawer o'r dinasoedd mawr.  Un o'r prif resymau mae twristiaid yn dod yma i ganol yr anialwch ydi ar gyfer dechrau trip i'r Salar de Uyuni yn Bolivia.  Ond mae llawer o atyniadau lleol yma hefyd.




Wedi cael dipyn o amser yn ymlacio yma yn yr hamocs a bwyta chydig o fwydydd lleol gan gynnwys y cazuela cyw iar bendigedig yn y llun.  Methu disgwyl am y trip i'r Salar de Uyuni (salt flats) ond yn gobeithio na fyddwn ni'n rhy sal gyda'r altitude.  Gawn ni weld! 

Arol ol llwyddiant cymharol ein taith feics yn Mendoza, penderfynu heirio beics eto yma a mynd am dro am y diwrnod.Aethom i Pukara de Quitor sef canolfan weinyddiaeth yr Atacamenos a gafodd ei orchfygu gan yr Uncas ac yna'r Sbaenwyr.  Oherywdd i'r Incas dorri pennau llawer o'r trigolion gwreiddiol er mwyn dysgu gwres i unrhyw un arall fyddai'n ceisio ymosod yn y dyfodol, gelwir y lle yn 'bentref y pennau'.  Yn ffodus, doedd yna ddim ol o hynny yno erbyn hyn.  Lle difyr ofnadwy ond poeth iawn!!  Seiclo wedyn drwy Devil's Gorge, llwybr cul a serth gyda chreigiau yn dal o'n hamgylch (y daith i lawr yn haws na'r daith i fyny!!)  Roeddem wedi gobeithio gallu cyrraedd adfeilion Catarpe (pre-Incan) ond doedd amser na'r map amwys ar ein hochr ni felly penderfynu troi yn ol am San Pedro.  Diwrnod braf iawn serch hynny.



Cawsom noson anhygoel yng nghwmni Ffrancwr, Alain, sy'n berchen ar observatory mawr tu allan i San Pedro.  Oherwydd bod y lle mor anghysbell ac yn amddifad o lygredd, mae'n un o'r llefydd gorau yn y byd i astudio'r ser.  Cawsom ddwyawr hynod ddifyr yn dysgu am y ser yn ogystal a gweld rhai pethau na fuasai ni fyth yn eu gweld yn hemisffer y gogledd, gan gynnwys y Milky Way (gweler y llun), y Southern Cross a sawl constellation arall.  Trwy'r sbienddrych gwelsom blaned Sadwrn a seren oedd fel petai'n newid lliw oherwydd tymheredd y gofod roedd y golau'n teithio drwyddo.  Profiad oedd yn gadael i rywun feddwl yn ehangach nag arfer a'n hatgoffa pa mor fach ydan ni o fewn y bydysawd mewn gwirionedd. 

No comments:

Post a Comment