Wednesday 1 June 2011

Salar de Uyuni

Wel, dan ni newydd gael tridia mwyaf anhygoel y trip!  Dwi'n ama y byddwn ni'n rhedeg allan o ansoddeiria yn ystod y blog yma!  Teithio drwy'r tirwedd mwya arallfydol - dan ni rioed wedi gweld golygfeydd mor eithriadol o dlws a chyfnewidiol mewn amser mor fyr.  Roedd pob tro yn dod a golygfa newydd a ninnau yn methu coelio pa mor lwcus oeddan ni i gael bod yma.  Gadael San Pedro yn gynnar yn y bore yn y 4x4 gyda'n cyfeillion newydd - Ruben y gyrrwr o Bolivia, Rodrigo o Chile, Juliana a Richardo (Che) o Frasil, Ruby Ho o Hong Kong a ni'n dwy o Gymru fach! 

Tasg gynta'r diwrnod oedd ciwio yn San Pedro i gael stamp immigration ac yna ymalen i checkpoint Bolivia oedd yn ddim mwy na chwt yng nghanol nunlla - arwydd o'r hyn i ddisgwyl yng ngweddill y wlad ella!!  Aeth taith y diwrnod cyntaf a ni heibio sawl llyn gan gynnwys Laguna Blanco a Laguna Verde - llynnoedd oedd yn wyn ac yn wyrdd oherywdd y mineralau oedd ynddynt.  Yna ymlaen i gael ymlacio mewn thermal pool oedd i fod yn ein gwella o bob afiechyd cyn cyrraedd pwynt uchaf y trip yn Geysers Sol de Manana - 4,900m uwch lefel y mor.  Roedd nwyon poeth yn chwythu allan o dyllau ynh y ddaear oedd yn olygfa hynod drawiadol.  Doeddan ni methu cerdded yn gyflym iawn achos bod ein anadl yn dynn oherywdd yr uchder, hynny a'r ffaith bod y nwyon yn hynod ddrewllyd!! 



Ar yr ail ddiwrnod aethom i weld Laguna Colarada oedd yn lyn coch hardd gyda fflamingos.  Cael cinio mewn man hynod anghysbell wrth ymyl llyn Laguna Honda - profiad swreal a phawb (am unwaith!) yn ddistaw ag yn myfyrio - hynny neu ein bod i gyd yn dechrau teimlo effeithiau'r uchder!  Cawsom hefyd anffawd efo'r car a chael teiar fflat, ond fe sortiodd Ruben o mewn dau funud!!Aros yr ail noson mewn gwesty oedd wedi' wneud yn gyfan gwbl o halen oedd yn brofiad od - y llawr fatha traeth oedd chydig yn boen ar ol cawod! 



Y trydydd diwrnod heb os oedd uchafbwynt y tridia.  Doedden ni ddim yn siwr os fuasen ni'n gallu mynd at yr ynys oherwydd fod y salt flat o dan ychydig o ddwr.  Ond chwara teg i Ruben mi lwyddodd i gyrraedd yno - a dan ni mor falch achos mi oedd o'r lle mwyaf tlws.  Roedd mirage anhygoel yn golygu fod y dwr a'r tir yn ymdoddi i'r awyr.  Ar ol hynny, cyrraedd yr ynys - Isla Incahuasi - oedd wedi'i orchuddio efo cactus a llamas ac wedi'i amgylchynu gan y salt flat.  Cawson gyfle i gael chydig o hwyl ar y Salar ei hun yn tynnu lluniau perspectif - fatha'r un efo'r gwpan coke! 




Er ein bod yn flinedig iawn, dan ni wedi mwynhau ein hunain i'r eithaf - y dechrau perffaith i Bolivia!!

No comments:

Post a Comment