Thursday 23 June 2011

Cusco

Aeth y daith 10 awr yn gynt na'r disgwyl efo gem o Bingo yn gyfle i ni marfer ein rhifau!!  Glanio yn Cusco (neu Qosqo yn iaith Quechua) i ganol paratoadau dathliadau Gwyl Cusco fydd yn dod i uchafbwynt efo Inti Raymi ar y 24ain o Fehefin.  Y lle yn wledd o liwiau, dawnsio a mwynhau.  Awyrgylch braf iawn, er bod y bandiau pres yn rhai o'r gwaethaf dan ni rioed wedi'u clywed!!





Ar yr ail ddiwrnod, penderfynu mynd am dro i'r adfeilion Incaidd uwchben Cusco, Sacsayhuaman.  Lle difyr ofnadwy a chael tywysydd gwybodus iawn o'r enw Diana.  Doedd yr Inciaid ddim yn byw yn Sacsayhuaman gan mai teml i addoli oedd hi.  Dim ond uwchoffeiriaid oedd yn byw yno, er bod rhai o'r Quechuans yn gweithio yno ar y tir.  Adeiladwyd Sacsayhuaman uwchben Cusco a'r Plaza de Armas fel bod yr Incas a'r  bobl leol i gyd yn gallu'i weld er mwyn eu hatgoffa i addoli - yr haul, mellt a tharannau, dwr a pachamama (mam natur).  Diddorol oedd deall fod dinas Cusco ei hun wedi ei hadeiladu yn fwriadol ar siap piwma. Yn ol Diana, roedd lawer mwy o adfeilion o dan y ddaear ond roedd yr archeolegwyr yn amharod i fynd yn ddyfnach oherwydd bod y mwsog yn gwneud y cerrig yn rhy fregus i'w symud. 

Dechreuwyd adeiladu Sacsayhuaman gan yr Inca enwog Pachacuti ym 1450 a chymrodd dair cenhedlaeth iddo gael ei orffen.  Rheibiwyd y safle gan y Sbaenwyr yn ddiweddarach gan eu bod yn credu fod aur wedi ei guddio yno.  Yn yr adfeilion hyn y bydd uchafbwynt seremoni Inti Raymi - wedi prynu ein tocynnau yn barod - stori hir a lot o giwio mwen llefydd gwahanol - ond yn ddiogel yn ein dwylo o'r diwedd.      

Ar ol mynd o amgylch yr adfeilion penerfynu mynd ar daith ar gefn ceffyl i weld rhai adfeilion eraill oedd chydig ymhellach o'r ddinas - Tambo Machay, Puka Pukara a Qenko.  Roedd y rhain yn wahanol iawn i Sacsayhuaman gan fod un yn gartref haf a'r llall yn safle milwrol.  Roedd y daith ar y ceffylau yn fwy o antur nag oedden ni wedi'r ddychmygu ac yn mynd i fyny'n uchel i'r mynyddoedd.  Ond golygai hyn fod y golygfeydd yn werth chweil!   


Ar y ffordd yn ol gweld criw o bentrefwyr yn sychu tatws ar ochr y ffordd.  Mae'n debyg fod y dechneg hon yn deillio o gyfnod ymhell cyn yr Inciaid a bod modd eu cadw yn y ffurf yma i fyny at 10 mlynedd - iym!!!


Cyn diweddu'r diwrnod, cerdded ryw hanner awr i weld cerflun y Christo Blanco oedd yn edrych i lawr ar Cusco.  Roedd yn hynod drawiadol wedi'i oleuo ac yn ddiwedd gwych i ddiwrnod difyr.

Y ddwy ohonom wir yn edrych mlaen i'r cam nesaf sef mynd i'r Dyffryn Sanctaidd ac ymweld a phentref bach Ollytaytambo ac yn arbennig un o 7 rhyfeddod y byd - Machu Picchu.  gobeithio bod popeth yn iawn efo pawb adref.  Methu credu pa mor gyflym mae'r amser yn mynd.  Newyddion da arall ydi fod awyrennau i gyd bellach yn hedfan yn Ne America ar ol y llosgfynydd yn Chile.  Er, ella fysa ni ddim wedi cywno cael cwpl o wythnoasu ychwanegol yma chwaith!!  Hwyl am y tro!! 

No comments:

Post a Comment