Hola amigas! Yn gyntaf, ymddiheuriadau bod y llunia braidd yn gam - dyna sy'n digwydd i betha yn hemisffer y De!! Hynny ynghyd a chyfrifiaduron araf, styfnig a henffasiwn!! Dyma ni yn ol yn Chile. Nid dyma oedd y bwriad ond oherwydd y problemau yn Puno (Llyn Titicaca) dyma oedd y ffordd orau i gyrraedd Peru yn ddiogel. Ond falch ein bod wedi cael y cyfle i weld chydig mwy o Chile (a stamp arall yn y passport!)
Mae Arica yn ddinas fawr yng ngogledd Chile, reit ger glan y mor. Dros y blynyddoedd bu llawer o frwydro dros berchnogaeth Arica rhwng Chile a Peru. Roedd yn amlwg eu bod yn falch iawn o'u gwreiddiau yn Chile oherwydd bod fflagiau ym mhobman a hefyd cofgolofnau yn datgan eu balchder cenedlaethol. Fe wnaethon ni gyrraedd Arica ddiwrnod cyn Diwrnod Anibynniaeth y ddinas - lot o ganonau am 6 y bore - ynghyd a than gwyllt trwy'r dydd!!
Roedd yn braf cael arogli aer y mor - newid braf o arogl ceir a llygredd La Paz. Wedi mynd am dro un pnawn i'r Morro, sef y mynydd/bryn yn Arica. Golygfeydd braf allan dros yr harbwr, ac wedi aros yno tan y machlud, fel y gwelwch chi.
Aros mewn hostyel eithaf doniol - boi oedd yn rhedeg y lle yn llawn hwyl. Heb anghofio eu bod hefyd yn berchen ar gath y diafol oedd yn mynnu ymosod ar Awen bob cyfle!!! Roeddwn i'n ddigon lwcus i gael hafan ddiogel (ar y 3ydd bync!!) Awen ddim cweit mor lwcus . . . ac yn gripiadau i gyd!!!
Rhag ofn i chi boeni ein bod ni wedi gostwng ein safonau ers cyfnod Patagonia, dani ni dal yn mynd i'r capel bob hyn a hyn (cyd-ddigwyddiad bod potel Pisco hefyd o'r un enw!!)
Un o nosweithiau hwyliog yn yr hostel - BBQ hyfryd a Roberto'r perchennog yn mynnu bod pawb yn cael wig yr un!! Noson dda a chriw da yn yr hostel hefyd.
Er ein bod wedi mwynhau Arica, rhaid oedd dal ymlaen efo'r daith ac i fyny i Tacna, Peru. Croesi'r bordor yn eithaf didrafferth efo dwy hogan o'r Almaen a dyn o Dde Affrica oedd wedi bod yn cerdded sawl gwaith yn Eryri. Siwrnae o ryw awr a hanner mewn colectivo a'r gyrrwr yn sortio bob dim i ni ar y bordor oedd yn handi iawn. Doedden ni ddim wedi bwriadu aros yn Tacna ond gan nad oedd bws yn mynd yn syth i Cusco'r diwrnod hwnnw, penderfynu cymryd y cyfle i edrych o gwmpas.
Yn ddiddorol iawn, roedd Tacna yn debyg iawn i Arica wedi bod yn rhan o Chile unwaith ond bellach yn falch iawn o'i statws fel tref gyntaf ar fordor Peru. Mynd am dro i'r Eglwys ac eistedd yn gwylio'r byd yn mynd heibio ar y sgwar.
Y daith nesaf i Cusco a pharatoi ar gyfer Machu Picchu a dathiadau Inti Raymi - edrych mlaen!!
No comments:
Post a Comment