Sunday 5 June 2011

Uyuni, Potosi a Sucre

Ar ol tri diwrnod anhygoel anodd oedd ffarwelio gyda´r criw....cwmni mor ddiddorol - lle arall yn y byd ymae cyfle i drafod sefyllfa economaidd a chymdeithasol Sao Paulo gyda chynllunwyr trefol, effaith y gemau olympaidd ar y celfyddydau yng Nghymru a Ieithyddiaeth ac effeithiau y iaith Manderin ar ddiwylliant Hong Kong a Tsieina a  gorffen y noson olaf gyda gem o chess gyda pencampwr Chile!!!!!


Er i ni fod yn Bolivia am rai dyddiau ar gyrraedd Uyuni y gwelsom Chola (merch frodorol yn eu gwisg traddiodadol) am y tro cyntaf. Maen´t yn ferched balch iawn ac edrych mor lliwgar . Sylwyd eu bod yn gweithio'n galed iawn yn y marchnadoedd o fore gwyn tan nos gyda nifer fawr ohonynt yn oedranus iawn. Doniol iawn oedd gweld eu diwylliant traddodiadol yn cyd fyw ar byd technolegol, fel y gwelir uchod!!!!
Cawsom drip i'r mercado central ble cawsom wledd i'r llygaid wrth edrych ar yr holl stondinau lliwgar yn llawn bwydydd ffres a llawer o ffrwythau a llysiau anghyfarwydd i ni. Ceiswyd gael llun o stondin gig ond penderfynnwyd yn erbyn hynny pan chwifiodd y ddynes gyllell anferth yn ein gwynebau, felly symud reit handi i'r farchnad tu allan!!!!Uchafbwynt y daith oedd crempog banana a mel a ysgytlaeth banana y meddyginiaeth gorau at salwch uchder!!

Cyrraedd Potosi ar ol taith 6awr ar fws orlawn, gyda llawer un yn cysgu ar loriau'r cerbyd. Cyrraedd yr orsaf bws i sgrechfeydd merched yn gwerthu teithiau a thicedi bws. Dal tacsi i'r hostel gyda criw o ffrancwyr. Cael ein golygfa gyntaf o ddinas Potosi, dinas wedi ei h'adeiladu ar fryniau serth. Dinas dlws gyda dylanwad Sbaeneg glir i'r adeiladau.


Aros mewn cyn blasdy anferth gyda teras yn edrych allan drost y ddinas.Bechod mai noson gawdom yma gan ein bod eisioes wedi bwcio ticedi i Sucre.
Cychwyn ein taith am Sucre drwy gael tacsi i'r Gorsaf bws gyda dyn bach annwyl o'r enw Marcelio a wnaeth yn siwr chwara teg ein bod yn ffeindio'r lle iawn yn y Terminal newydd sbon. Dyma fynd ar y bws a gweld ein bagiau yn cael eu taflu i gefn y bws gyda llwythi o boteli coca cola a tri sach o wlan Llama dim ond yn Bolivia de!!!!.Taith bach eithaf pleserus gan fynd heibio nifer o bentrefi bach traddodiadol i fyny yn y mynyddoedd wedyn stopio mewn caffi o fath ar ochr ffordd. Tra fod y brodorion yn tycio mewn i ryw fath o stiw penderfynnodd y ddwy ohonom ddal ati i fwyta brechdan pringles a ffrwythau, i'w ddilyn gyda thrip i'r unig dy bach / cwt ieir. Cychwyn eto am Sucre gyda phopeth yn edrych yn addawol iawn nes i'r bws ddod i stop a dywedodd y gyrrwr wrth bawb adael y bws. Dilyn gweddill y teithwyr i ochr arall y ffordd ac o fewn eiliadau gwaeddodd y gyrrwr i ni gyd ddychwelyd ar y bws a'i fod wedi cael petrol gan ryw ddyn oedd yn digwydd pasho gyda tank sbar!!!!! Y mae'r daith ma'n mynd yn wirionach bob eiliad ond does dim eiliad ble nad ydym yn chwerthin am ryw ddigwyddiad neu gilydd. Sgwn i beth sydd o-m blaenau yn Sucre!!!

Eiffel Tower, dyna oedd o'm blaenau ni yn Sucre!!!!! Ia copis o'r Eiffel Tower a'r Arch de'Triumphe yng nghanol y ddinas. Sucre yn ail Brifddinas Bolivia ac yn llawer mwy llewyrchus na dinasoedd eraill.
Ymweld a llawer o adeiladau diddorol gan gynnwys yr Eglwys Gadeiriol oedd yn eithriadol o dlws gyda nifer o gerfluniau a darluniau wedi eu harlunio gan Bitti oedd yn ddisgybl i Raphael. Diddorol iawn. Treulio amser yn y Mercado Central oedd yn anferth ac yn llawn o fwydydd, cigoedd, creiriau a chelfi o bob math, perlysiau a "potions" od a stondin gyfan yn gwerthu Tupperware!!!! 
Rhaid dweud ein bod yn teimlo'n dipyn o "gritics"bwyd erbyn hyn ond doedda ni ddim di trio bwyd traddodiadol Bolivia felly penderfynnu ar drio Pique de Macho pryd o Selsig Boliviaidd gyda thatws mewn saws. Ar ol ecseitio am tua hanner awr cyrhaeddodd y pryd..... Selsig Hot dog, darnau o gig eidion, chips a saws "Sweet and Sour" cyfuniad diddorol ac od ond blasus iawn. 
Y cam nesaf ydi La Paz - edrych mlaen!!!

No comments:

Post a Comment