Sunday 26 June 2011

Machu Picchu

Chawsom ni ddim ein siomi gan y daith ar y tren (oedd braidd yn ddrud i safonau Peru - dydi twristiaid ddim yn cael teithio ar y bws lleol i Machu Picchu).  Golygfeydd hollol anhygoel o'r mynyddoedd a'r trac yn dilyn yr afon Urubamba yr holl ffordd.


Codi am 5yb er mwyn cael diwrnod llawn yn yr adfeilion - un o saith rhyfeddod y byd - a chawsom ni ddim ein siomi.  Y ddwy ohonom a'r cegau ar agor led y pen wrth gael y cip cyntaf.  Nid yn unig maint yr adfeilion sy'n taro rhywun ond y lleoliad trawiadol yng nghesail y mynyddoedd.  Penderfynu cerdded i fyny at Intipunku (Adwy'r Haul), sef diwedd yr 'Inka Trail' a mwynhau'r olygfa oddi yno'n fawr iawn.

Wedyn, teimlo'n reit hyderus a phenderfynu mynd am dro fach sydyn i fyny Montaña Machu Picchu (oedden ni wedi rhagdybio'n hy fysa'n cymryd ryw hanner awr).  Wel, ar ol ryw awr a hanner o gerdded i fyny'r stepiau serth, sylweddoli mai'r mynydd y tu ol i'r un oedden ni wedi'i weld oedd Montaña Machu Pichhu - o diar!  Ond, wedi dod cyn belled, doedd 'na ddim troi'n ol.  Ac wedi cyrraedd y copa, roedden ni mor falch ein bod wedi dyfal barhau, ac yn teimlo fel dwy Hiram Bingham hapus - ni a'n bechdan gaws oedd mor sych a tasa fo wedi'i gadael hi yno gan mlynedd yn ol! 


O'r copa mi welson ni gysgod mawr du yn y coed, ac yn sydyn hedfanodd condor anferth allan o'r brigau gan godi'n uchel uwch ein pennau.  Poeni y byddai'n ffansio ein bechdan gaws, ond yn lwcus i ni roedd 'na rywbeth mwy blasus wedi mynd a'i fryd yn rhywle arall.  Ar gopa Montañna Machu Picchu roedd yna ffon fawr oedd, yn ol y chwedl, wedi'i gosod yno gan Manco Inka (Brenin Inca).  Teithiodd yr holl fordd o Lyn Titicaca a lle bynnag roedd o'n plannu'r ffon, byddai hynny'n dynodi ei fod yn dir da a ffrwythlon. 


Mae llawer o fythau yn bodoli ynghylch pwrpas gwreiddiol Machu Picchu ac mae'r dadlau yn parhau ymysg archeolegwyr a haneswyr hyd heddiw, gan mlynedd union wedi i Hiram Bingham ddarganfod y safle.  Credwyd bod y safle yn un o brif ganolfannau gweinyddol yr Inciaid am flynyddoedd neu'n gartref i 'virgins of the sun', ond erbyn hyn mae tystiolaeth wedi dod i law sy'n profi mai tai haf oedd yma, lle i'r Inciaid ymlacio pan fyddai'r tywydd yn ddrwg yn Cusco.  Roedd diflaniad sydyn yr Inciaid o Machu Picchu yn ddirgelwch mawr, ond fel gyda llawer o dai haf, roedd wedi mynd yn ormod o waith iddynt ei gadw, yn hytrach na'u bod wedi cael eu gorchfygu a'u gorfodi i ffoi.


Roedd y tywydd wedi bod yn gyfnewidiol drwy'r dydd - haul braf a glaw ysgfan am yn ail.  Ac i goroni'r diwrnod daeth enfys bach i wenu arnom.  Byddai rhai yn mynd mor bell a dweud ei fod yn symbolaidd iawn hefyd gan fod baner brodorol Peru yn lliwiau'r enfys.  Dan ni'n gweld yn glir pan fod hwn yn cael ei ystyried yn un o saith rhyfeddod y byd ac mor, mor falch ein bod wedi cael y cyfle i ddod yma i'w fwynhau.

Yn ol i Cusco ar gyfer dathliadau Inti Raymi - dwi'n meddwl y bydd y parti 'in full swing' erbyn i ni gyrraedd yn ol!!!

No comments:

Post a Comment