Mynd ar daith wych am ddiwrnod i Tiwanaku - cymdeithas oedd yn bodoli cyn Crist ag a orchfygwyd gan yr Incas tua 1400 OC. Lle anhygoel a mor, mor ddiddorol. Edwin oedd enw ein tywysydd. Dyma ni´n gofyn beth oedd tarddiad ei enw - dim syniad medda fo ond mi oedd yna lot o Edwins yn La Paz yn ol pob son! Roedd o braidd yn amheus pan wnaethon ni awgrymu ella bod gwreiddiau Cymreig i'r enw!!!
Dyma borth sy'n wynebu'r Dwyrain. Dim ond dwy waith y flwyddyn mae'r haul yn tywynnu drwyddo - y ddau solstice. Y tro nesaf y bydd hyn yn digwydd ydi ar yr 21ain o'r mis hwn a bydd dathliad mawr yn Tiwanaku. Yn anffodus byddwn wedi gadael erbyn hynny ond rydym yn bwriadu bod yn Cuzco ar gyfer y dathliadau (Inti Raymi) ar y 24ain.
Cawsom ddiwrnod touristy iawn ar fws yn debyg iawn i'r rhai yn Llundain. Roeddem yn synnu (ac yn duckio weithiau!) wrth weld faint o geblau trydan oedd ym mhob man. Eglurodd Vicky ein tywsydd nad oedd posib eu rhoi o dan ddaear oherwydd fod bron i 200 o afonydd bach yn rhedeg o dan y ddinas.
Aethom i fyny yn uchel i'r mynyddoedd a roddodd olygfa wych i ni o'r ddinas gan ddangos pa mor nyts oedd y lle wedi ei adeiladu i fyny'r elltydd mwyaf serth!! Yn drist iawn, oherwydd hyn mae'r ddinas yn dioddef tirlithriadau drwg yn ystod y tymor gwlyb ac yn amlach na pheidio, tai'r tlawd sy'n cael eu heffeithio waethaf.
Crwydro o amgylch y ddinas a'r cannoedd o farchnadau bach sydd ar bob stryd bron iawn. Wedi cael sioc o weld y 'Witches Market' lle roedd hen ferched yn gwerthu pob math o berlysiau a photiau yn ogystal a rhai cynhwysion mwy amheus, fel feotus llama.
Dyma ni yn bod yn dwristiaid go iawn (ac yn mwynhau bob eiliad!!)
Dyma Valle de Luna (Moon Valley) - ardal yn Ne La Paz sydd yn debyg iawn i dirwedd y lleuad (medda nhw!!) Ger yr ardal hon hefyd mi welson ni gwrs golff ucha'r byd. Lle gwych am rownd berffaith gan fod yr uchder yn gwneud y bel yn llawer ysgafnach ac felly mae hi'n mynd dipyn pellach nag arfer - handi!!
Dyna ddiwedd ein anturiaethau yn Bolivia. Y cam nesaf i fod oedd croesi'r bordor i Peru ac i Lyn Titicaca. Ond yn anffodus mae problemau wedi codi yn yr ardal ac mae'r brodorion lleol wedi bod yn protestio'n ffyrnig yn erbyn cynlluniau cwmni o Ganada i gloddio ger y Llyn.
Stori hir yn fyr, dan ni'n mynd yn ol ar draws y bordor i Chile i ddinas fwyaf gogleddol y wlad - Arica - i weld ei thraethau a'i pharc cenedlaethol. Yna i fyny o fano i Peru a Cuzco. Cofiwch chi, dan ni wedi clywed bod 'na beansprouts digon peryg o gwmpas y lle adra!! Cymrwch ofal, meddwl amdanach chi i gyd xxxx
No comments:
Post a Comment