Mae Trelew yn dref eithaf prysur ac mae olion y Cymry yn llawer llai gweladwy nag yn Puerto Madryn a´r Gaiman. Er hynny, mae Capilla Tabernacl a Neuadd Dewi Sant ynghanol y dref, heb anghofio am holl enwau´r strydoedd, megis Lewis Jones, Avenida Gales . . . Yn Capel Moriah yn Trelew cawsom sgwrs ddifyr iawn efo Cristina oedd yn gofalu am y capel (ac roedd Edwin Cynrig aeth yn sownd yn y ffynnon yn hen daid iddi!!) Mae hi´n tybio mai yn Eglwys St Anne´s ym Methesda y claddwyd Edwin felly dan ni wedi addo mynd yno i chwilio pan awn ni adra. Dydi´r capel hwnnw ddim yn cael ei ddefnyddio´n rheolaidd bellach dim ond ar gyfer priodasau neu achlysuron arbennig. Tywysodd Cristina ni o amgylch y fynwent lle roedd llawer o´r Cymry ddaeth draw ar y Mimosa wedi´í gladdu gan gynnwys Lewis Jones.
Cael lle braf iawn i aros yn y Gaiman - Plas y Coed efo Ana Rees - sef y Ty Te Cymraeg cyntaf yn y Gaiman. Adeilad prydferth iawn a ddim yn anhebyg i adeiladau yng Nghymru o´r un cyfnod.
Buom yn lwcus iawn i fod yno ar gyfer nos Sadwrn pan oedd Lois Dafydd o Menter Patagonia wedi trefnu noson gyri. Roedd yn gyfle da i´r bobl leol gyfarfod a siarad Cymraeg ac i ni gael cymdeithasu hefyd. Difyr nad oeddynt wedi profi cyri o´r blaen (mi aeth o i lawr yn dda iawn!) a dydyn nhw ddim yn bwyta tatws pob chwaith! Dywedodd Ana ei bod wedi synnu bod cynifer wedi dangos diddordeb gan mai dim ond ryw 35 oedd yn arfer dod i´r math yma o ddigwyddiad a bod 50 wedi rhoi eu henwau i lawr tro ma (wedi clywed ein bod ni yno mae´n rhaid!!) Braf os nad mymryn yn swreal oedd canu ´Bys Meri Ann´ ddiwedd y noson i gyfeiliant hyfryd gitar Billy Hughes.
Nos Sul aethon ni i Oedfa´r Pasg yng Nghapel Bethel. Unwaith eto, roedd y croeso yn gynnes iawn a llawer o´r aelodau yn awyddus i rannu eu cysylltiadau a Chymru efo ni. Gwasanaeth undebol Cymraeg oedd o a phobl wedi dod o gapeli´r ardal ar gyfer y gwasanaeth. Yr un stori ag adra bod rhifau sy´n mynychu´r capeli yn lleihau ond yr enwadau yn gyndyn i ymuno. Un peth braf oedd eu bod yn cyfarfod awr cyn y gwasanaeth am de a chacennau sy´n dod ag elfen gymdeithasol i´r peth. Roedd y canu yn wych a´r emyn olaf "Arglwydd Dyma Fi" yn dod a mymryn o hiraeth dros y ddwy ohonom (mewn ffordd dda). Yn sicr yn brofiad bythgofiadwy.
Gyda´r nos cawsom wahoddiad i Gornel Wini gyda Luned Gonzalez a Tegai Roberts, dwy sydd wedi gweithio´n galed i gadw´r bywyd Cymreig yn fyw, Lois Dafydd a Clare Whitehouse sy´n byw yn Nhrevelin ond yn wreiddiol o ardal Wrecsam (meddwl ei bod yn adnabod Mam o gwrs yn Coleg Llysfasi!) Noson arall wych - roedd Tim Baker i fod i ymuno efo ni ond roedd o wedi cael pwl o ´jet lag´! Diweddu´r noson efo hufen ia dulce de leche (mewn siop o´r enw Gwahanol!) am 11 yn y nos!! Dan ni dal i arfer efo pa mor hwyr mae´r bywyd yn dechra yma.
Wir wedi mwynhau´r amgueddfa yn y Gaiman a chael hanesion difyr gan Fabio mab Luned sydd mor wybodus a chyfeillgar. Roedd sawl eitem oedd wedi dod drosodd ar y Mimosa gan gynnwys sgarff gwraig Lewis Jones. Roedd piano Lewis Jones yno hefyd er eu bod yn tybio ei fod wedi´í phrynu yn Buenos Aires ac yn anffodus fe gafodd ei difetha mewn llifogydd. Diddorol oedd gweld bod rhai o´r mapiau cynharaf o ardal Chubut yn y Gymraeg gan Llwyd ap Iwan. Hefyd roedd rhai enwau ´Cymraeg´ wedi aros megis Pant Ffwdan a Rocky Trip ac enw un mynydd yn yr Andes - Cerro Cwtche - wedi dod o´r gair ´cwtch´.
Dydd Llun cawsom ddiwrnod braf yn Punta Tombo yn ymweld efo´r pengwins! Y ddynes oedd yn rhedeg y daith (Clara) yn briod a Chymro ac yn bendant mai Libanus Jones wnaeth enwi´r creaduriaid yn bengwins am fod ganddynt ben gwyn. Doniol mai´r enw blaenorol arnynt oedd ´strange geese´ am eu bod yn swnio fel gwyddau ond nad oeddynt yn gallu hedfan. Er ei bod yn nesau at ddiwedd y tymor a bod y pengwins yn gadael am Brasil (tua 20% o´r nifer arferol oedd ar ol - 200,000) roedd y lle´n dal yn orlawn ac mi oedden nhw mor, mor ddel ac o fewn pellter cyffwrdd (moooor tempting!! Wedi gorfod clymu dwylo Non nes dychwelyd i´r bws mini!) Y rhai oeddan ni wedi gwirioni fwyaf efo nhw oedd y rhai yn eu harddegau oedd yn y broses o golli ei plu babi. Wel am olwg bler ar rai ohonynt!! Ond yn eu gwneud gymaint yn fwy ciwt er bod rhai yn edrych yn fed-up ac isho bod yn barod i fynd i´r mor efo´r oedolion. Clara yn dweud ei bod wedi bod yn rhan o´r brotest yn 1982 pan wisgodd degau o drigolion Trelew a´r ardal fel pengwniaid er mwyn protestio yn erbyn penderfyniad y llywodraeth i ganiatau gwerthu miloedd o´r anifeiliad i´r Siapaneaid i´w defnyddio ar gyfer bagiau a menyg gan fod eu croen yn ledr gwydn. Y fuddugoliaeth ecolegol gyntaf yn yr Ariannin ac mae´r ardal wedi´í gwarchod erbyn hyn.
Bellach dan ni yn El Calafate yn Ne´r Ariannin - ardal dlws ofnadwy a´r llynnoedd a´r mynyddoedd yn debyg iawn i ardal Ogwen. Edrcyh mlaen i weld y glaciers anferth (Perito Moreno) a cherdded ger Lago Argentina. Gobeithio bod pawb yn iawn - clywed eich bod yn mwynhau sbel braf - meddyliwch amdanom yma yng nghanol y rhew!!
No comments:
Post a Comment